Jerry Collins yn chwarae i Seland Newydd (llun: PA)
Mae teyrngedau lu o Gymru a thu hwnt wedi cael eu talu i Jerry Collins ar ôl i gyn-flaenasgellwr y Gweilch a Seland Newydd gael ei ladd mewn damwain car.

Cafodd y chwaraewr rygbi a’i wraig Alana Madill eu lladd mewn damwain car yn Ffrainc yn oriau man y bore ‘ma, ac mae eu merch tri mis oed Ayla mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Ei gyn-glwb, Y Gweilch, oedd un o’r cyntaf i ymateb heddiw gan adael neges ar Twitter yn dweud: “Newyddion trasig yn dod drwyddo fod y cyn-Walch Jerry Collins wedi cael ei ladd mewn damwain car yn Ffrainc bore ‘ma gyda’i bartner. RIP JC”.

Mae Undeb Rygbi Cymru a rhanbarth y Scarlets hefyd wedi talu teyrnged i gyn-seren y Crysau Duon, yn ogystal â nifer o chwaraewyr Cymru gan gynnwys Rhys Webb, Ryan Jones, Huw Bennett a Sam Warburton.

Dywedodd y darlledwr Jason Mohammed ei fod wedi’i “synnu’n llwyr” wrth glywed y newyddion, a dywedodd hyfforddwr Bryste Sean Holley ei fod wedi bod yn “bleser ei nabod”.