Swydd Hampshire oedd yn fuddugol o 21 o rediadau yn erbyn Morgannwg yn Stadiwm Swalec heno.

Er bod disgwyl mawr am Wayne Parnell, bowliwr cyflym llaw chwith arall, Graham Wagg oedd y seren ymhlith bowlwyr Morgannwg.

Cipiodd Wagg bedair wiced am 27 wrth i Swydd Hampshire orffen eu batiad ar 148-8 yn Stadiwm Swalec.

Roedd pwysau cynnar ar fatwyr yr ymwelwyr yn golygu eu bod nhw’n 28-3 erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Trodd 28-3 yn 39-4, ac roedd yr ymwelwry yn 76-5 wrth i Forgannwg newid eu tactegau a chyflwyno’r troellwr ifanc Andrew Salter i’r ymosodiad.

Dim ond Sean Ervine (49) ac Adam Wheater (30) oedd wedi cynnig unrhyw fath o obaith i Swydd Hampshire yn eu batiad nhw, wrth iddyn nhw lwyddo i gyrraedd 148 a gosod nod resymol i Forgannwg.

Gyda nod o 149 am y fuddugoliaeth, dechreuodd Morgannwg eu batiad nhw yn y modd gwaethaf posib wrth golli dwy wiced gyflym yn y ddwy belawd gyntaf.

Roedden nhw’n 14-3 yn y bedwaredd pelawd ac roedd y fuddugoliaeth yn edrych ymhell i ffwrdd.

Ond partneriaeth o 69 rhwng y capten Jacques Rudolph a Mark Wallace oedd wedi cynnig llygedyn o obaith, a Morgannwg yn 82-4 erbyn i’r bartneriaeth ddod i ben.

Ond yr un stori â’r wythnos diwethaf oedd hi yng nghanol y batiad, wrth i’r Cymry golli pedair wiced am 27 o rediadau.

Collodd Morgannwg yn y pen draw o 21 o rediadau, sy’n golygu eu bod nhw bellach wedi colli dwy gêm o’r bron.