Roedd Morgannwg yn drech na Swydd Surrey ar gae’r Oval neithiwr, ar noson pan gafodd sawl record eu torri yn ystod eu gornest T20.

Y Cymry oedd yn fuddugol o 25 o rediadau ar noson pan gafodd 455 o rediadau eu sgorio.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod record ddi-guro Morgannwg ar gae’r Oval yn parhau yn y T20.

Sgoriodd Morgannwg 240-3 yn eu hugain pelawd, eu cyfanswm uchaf erioed mewn gornest ugain pelawd, gan guro’r cyfanswm uchaf blaenorol o 206-6 yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yn 2006.

Adeiladodd Colin Ingram a’r capten Jacques Rudolph bartneriaeth o 141 mewn 12 o belawdau – y bartneriaeth uchaf am unrhyw wiced i Forgannwg yn hanes y gystadleuaeth, gan guro’r bartneriaeth o 135 rhwng Rudolph a Jim Allenby yn erbyn Swydd Middlesex y llynedd.

Er mai noson i’r batwyr oedd hi ar y cyfan neithiwr, cipiodd Dean Cosker bedair wiced am 30, y ffigurau gorau gan droellwr i Forgannwg yn hanes y gystadleuaeth, gan guro ffigurau’r is-hyfforddwr Robert Croft o 3-9 yn erbyn Gwlad yr Haf yn 2011.

Y fuddugoliaeth mewn manylder

Galwodd Swydd Surrey yn gywir a gofyn i Forgannwg fatio’n gyntaf yn yr heulwen yn ne Llundain.

Agorodd y troellwr Gareth Batty y bowlio i Swydd Surrey wrth i Forgannwg ddechrau’r batiad yn hyderus, a Mark Wallace yn taro dwy ergyd i’r ffin yn yr ail belawd oddi ar Matt Dunn.

Ond buan y cipiodd Tom Curran wiced y wicedwr, wedi’i ddal gan Wahab Riaz ar ymyl y cylch.

Daeth cyfres o ergydion y ffin wrth i Colin Ingram gamu i’r llain ac roedd Morgannwg yn 53-1 erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Parhaodd y clatsio yn y pelawdau canol wrth i bartneriaeth y ddau ddyn o Dde Affrica – Ingram a Rudolph ddatblygu ac roedd Morgannwg wedi cyrraedd y 100 erbyn diwedd y degfed pelawd.

Cwblhaodd Ingram ei hanner canred oddi ar 29 o belenni wrth i’r bartneriaeth fynd heibio’r 100 mewn 9.1 o belawdau.

Tro Rudolph oedd hi nesaf i gyrraedd ei hanner cant, a hynny oddi ar 34 o belenni.

Roedd tân gwyllt i ddilyn er bod cae’r Oval wedi rhoi’r gorau i’r tân gwyllt go iawn wrth iddi fynd yn dduach ar Swydd Surrey tua diwedd y batiad.

Daeth batiad Rudolph i ben ac yntau wedi sgorio 62 cyn i Kumar Sangakkara ei ddal oddi ar Aneesh Kapil.

Batiwr arall o Dde Affrica, Chris Cooke ddaeth i’r llain ac fe barhaodd y clatsio am gyfnod cyn i Ingram gael ei fowlio gan Wahab Riaz am 91, ac yntau wedi wynebu 47 o belenni’n unig.

Cyrhaeddodd Morgannwg y 200 diolch i lu o ergydion i’r ffin gan Cooke a Ben Wright, ac fe orffennodd Cooke y batiad ar 46 heb fod allan oddi ar 19 o belenni.

Pe bai Swydd Surrey am ennill, byddai’n rhaid iddyn nhw gyrraedd eu cyfanswm uchaf erioed tra’n cwrso.

Ond dechreuodd y batiad yn y ffordd waethaf bosib, wrth i Jason Roy gael ei ddal gan Chris Cooke.

Roedd ychydig o glatsio gan Swydd Surrey cyn iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn i golli eu hail wiced.

Tarodd Steven Davies i gyfeiriad Ben Wright yn safle’r cyfar oddi ar fowlio Graham Wagg, ond fe ollyngodd y maeswr y daliad.

Daeth cyfres o ergydion gan Davies a Sangakkara yn y belawd nesaf cyn i’r ddau fatiwr ddarganfod eu hunain yr un ochr i’r wiced wrth geisio mynd am rediad cyflym, ond methodd Morgannwg gyda dau dafliad at y ffyn, ac fe oroesodd y naill a’r llall.

Parhau wnaeth y clatsio cyn i Sangakkara ddarganfod dwylo diogel David Lloyd oedd yn maesu’n agos ar ochr y goes, a Swydd Surrey bellach yn 58-2, a’u gobeithion o ennill yn dechrau pylu.

Ar ddiwedd y cyfnod clatsio, roedd Swydd Surrey yn 68-2 wrth i’r troellwyr Dean Cosker ac Andrew Salter gael eu cyfle i fowlio.

Cosker gipiodd y wiced nesaf, wrth ddarganfod coes Kapil o flaen y wiced, a Swydd Surrey bellach yn 97-3.

Cyrhaeddodd Davies ei hanner cant yn fuan wedyn oddi ar 27 o belenni, wrth iddo daro Craig Meschede dros ei ben am chwech.

Cipiodd Cosker ddwy wiced mewn dwy belen wrth i Davies a Vikram Solanki ddychwelyd i’r pafiliwn, y naill wedi’i fowlio a’r llall wedi rhoi ei goes o flaen y wiced.

Roedd Swydd Surrey mewn dyfroedd dyfnion ar 114-5, cyn i Cosker gipio wiced Gary Wilson i sicrhau ffigurau o 4-30.

Tarodd Zafar Ansari chwech oddi ar Michael Hogan yn y bymthegfed pelawd i adael nod o 77 oddi ar 30 o belenni i Swydd Surrey.

Wahab Riaz oedd y batiwr nesaf allan oddi ar fowlio Andrew Salter, cyn i Zafar Ansari gyrraedd ei hanner cant.

Y nod ar ddiwedd yr ail belawd ar bymtheg oedd 50, ac fe darodd Gareth Batty chwech oddi ar Meschede cyn colli ei wiced.

Gyda nod o 40 oddi ar 12 o belenni, roedd hi’n dechrau edrych fel pe bai’r nod yn amhosib i Swydd Surrey, yn enwedig wrth i Tom Curran gael ei fowlio gan Salter.

Roedd angen 31 ar Swydd Surrey oddi ar y belawd olaf, ond chwech rhediad sgorion nhw, wrth i Forgannwg gipio’r fuddugoliaeth.