Mae capten Morgannwg, Jacques Rudolph yn cefnogi cystadleuaeth newydd sy’n annog rhagor o bobol ifanc i chwarae criced T20 yng Nghymru.
Mae 25 o glybiau o bob cwr o Gymru wedi cofrestru ar gyfer cystadleuaeth dan 19 oed Clybiau T20 Natwest, sy’n cael ei threfnu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, ac mae disgwyl i 475 o glybiau o bob rhan o wledydd Prydain gymryd rhan.
Yn ôl adborth yn dilyn cynllun peilot y llynedd, dywedodd un o bob tri o glybiau bod chwaraewyr wedi dychwelyd i chwarae’r fformat newydd.
Ac fe ddywedodd dros hanner y chwaraewyr eu bod nhw’n fwy tebygol o chwarae i’w clybiau y tymor hwn o ganlyniad i’r gystadleuaeth newydd.
Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n adeiladu ar lwyddiant T20 Blast Natwest drwy ysbrydoli rhagor o bobol ifanc i chwarae criced.
“Mae cystadleuaeth fel hon yn rhoi cyfle gwych i bobol yn eu harddegau efelychu’r gêm broffesiynol – a chael cymaint o bleser a mwynhad o’r fformat T20 ag yr ydyn ni.”
Cwymp mewn niferoedd
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Gordon Hollins: “Mae’r gystadleuaeth yn rhan o fenter ehangach yr ECB i annog mwy o gyfranogiad ar lawr gwlad a mynd i’r afael â chwymp yn nifer y chwaraewyr 16-19 oed wrth i bobol yn eu harddegau ddechrau gweithio neu symud ymlaen i addysg uwch.
“Roedd y cynllun peilot y llynedd yn llwyddiannus dros ben ac fe ddangosodd fod awydd go iawn ymhlith criced pobol ifanc am fformat dynamig, cyflym sy’n adlewyrchu ein gêm sirol ni – ac mae’n galluogi clybiau i ddynwared cystadleuaeth T20 Blast Natwest yn llawn – gyda dillad lliwgar, ffugenwau ar dimau a cherddoriaeth yn rhan o’r profiad ar ddiwrnod y gêm.”
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal o fis Mai i fis Awst eleni, ac mae disgwyl i oddeutu 30 o dimau gymryd rhan yn niwrnod y rowndiau terfynol ym mis Medi.
Bydd modd dilyn y gystadleuaeth drwy gydol y tymor ar wefan Play-Cricket.com, ac fe fydd modd i glybiau sy’n cymryd rhan wneud cais am nawdd trwy gynllun Cronfa Ddatblygu SWALEC.
Gallwch hefyd ddilyn y cyfan ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #U19T20
Y clybiau sydd wedi cofrestru yng Nghymru yw:
Burton
Bwcle
Caeriw
Cilgeti
Clydach
Creigiau
Creseli
Crwydriaid Caerfyrddin
Cydweli
Gresffordd
Hook a Llangwm
Hwlffordd
Llandudno
Llanelli
Llaneurgain
Marchweil a Wrecsam
Meisgyn
Merthyr
Pontarddulais
Sain Ffagan
TATA Steel
Trecelyn
Y Bontfaen
Y Mwmbwls
Ynysygerwn