Mae un o ddau ddyfarnwr criced profiadol sy’n dwyn achos yn erbyn Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) oherwydd eu bod nhw wedi eu gorfodi i ymddeol ar ddiwedd y tymor diwethaf, wedi dweud ei fod yn ddigon iach a ffit i barhau.
Mae Peter Willey eisoes yn 65 oed, ac fe fydd George Sharp yn 65 oed cyn dechrau tymor 2015.
Yn ôl rheolau’r ECB, rhaid i ddyfarnwyr sydd eisoes yn 65 oed neu’n tynnu at 65 oed yn ystod tymor penodol ymddeol cyn dechrau’r tymor hwnnw.
Dywedodd Willey wrth dribiwnlys ei fod yn dymuno parhau er gwaethaf ei oedran, ac y byddai wedi rhoi’r gorau iddi pe na bai’n teimlo y gallai barhau.
“Fyddwn i ddim am weld dyfarnwyr yn parhau tan bod eu safonau’n gostwng jyst er mwyn parhau.
“Dw i ddim barhau a gadael y gêm gyda phobol yn teimlo nad oeddwn i’n ddyfarnwr da iawn.”
Mae Willey a Sharp yn honni bod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi’u diswyddo’n annheg ar sail eu hoedran.
Mae’r ddau am barhau i ddyfarnu am ddwy flynedd ychwanegol, gydag arolwg o’u perfformiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Dywedodd George Sharp wrth y tribiwnlys: “Ar hyn o bryd, dydy fy safonau ddim wedi gostwng ac ar ddiwedd tymor 2015 fe fyddwn i’n gwybod a yw fy safonau wedi gostwng, ac yn mynd yn ôl i drafod y sefyllfa.”
Mae’r tribiwnlys yn parhau.