Diwrnod 3: Swydd Essex 222 i gyd allan, Morgannwg 237-8 wrth iddyn nhw gwrso 342 am y fuddugoliaeth
Sesiwn 1: Morgannwg gafodd y gorau o’r sesiwn gyntaf ar y trydydd diwrnod, wrth iddyn nhw fowlio Swydd Essex allan am 222. Dechreuodd yr ymwelwyr ar 131-5, gyda blaenoriaeth o 256 ond fe gollon nhw’r bum wiced olaf am 91 rhediad. Greg Smith oedd y batiwr cyntaf i ddychwelyd i’r pafiliwn, wedi’i ddal gan y wicedwr Mark Wallace oddi ar Jim Allenby i dorri partneriaeth o 113 gyda Ryan ten Doeschate. Dilynodd Graham Napier yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan James Harris, y cyfanswm yn 202-7. Cafodd Sajid Mahmood ei redeg allan wrth i Swydd Essex golli’r wythfed wiced, ond cafodd Ryan ten Doeschate ei anafu yn y dryswch ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae am driniaeth cyn dychwelyd yn ddiweddarach. Monty Panesar oedd y nawfed batiwr i golli’i wiced, wedi’i ddal gan y bowliwr Harris. Roedd Swydd Essex 222 i gyd allan wrth i Allenby ddal ei afael ar ddaliad oddi ar ei fowlio’i hun, gan olygu bod gan Forgannwg nod o 342 i ennill.
Cafodd Morgannwg y dechreuad gwaethaf posib i’r batiad, wrth i Jacques Rudolph gael ei fowlio gan Monty Panesar oddi ar y belen olaf cyn cinio, y Cymry’n 13-1. Morgannwg 13-1
Sesiwn 2: Collodd Morgannwg eu hail wiced yn fuan wedi’r toriad, wrth i Will Bragg ergydio’n syth i’r awyr ac i ddwylo Ravi Bopara oddi ar Monty Panesar, y troellwr llaw chwith yn cipio’i ail wiced yn y batiad, a Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn 24-2. Ond cynigiodd Murray Goodwin a Chris Cooke ychydig o sefydlogrwydd wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o hanner cant yn erbyn y troellwyr Panesar a Greg Smith. Parhaodd y batwyr i greu rhwystredigaeth i’r bowlwyr yn ystod y sesiwn, wrth iddyn nhw gyrraedd partneriaeth o gant, a’r ddau yn agosáu at hanner canred yr un. Ond llwyddodd Panesar i dorri’r bartneriaeth, wrth ganfod coes Goodwin o flaen y wiced, y batiwr wedi sgorio 47 a Morgannwg yn 111-3. Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar belen ola’r sesiwn, wrth iddo dorri Nick Browne i’r ffin trwy’r slip. Morgannwg 119-3
Sesiwn 3: Collodd Chris Cooke ei wiced am 53 wedi’r egwyl, wedi’i ddal gan Jesse Ryder oddi ar Monty Panesar, a Morgannwg yn 120-4 wrth i Mark Wallace ddod i’r llain. Roedd ychydig o daro nôl cyn i Allenby gael ei ddal gan y maeswr agos Tim Phillips wrth geisio rhofio’r bowliwr Tom Westley, a Morgannwg yn llithro i 144-5, 198 o rediadau’n brin o’r nod o hyd. Daeth 144-5 yn 144-6 wrth i Panesar ganfod coes Wallace o flaen y wiced i gipio’i ddegfed wiced yn yr ornest. Cipiodd yr ymwelwyr y seithfed wiced gyda’r cyfanswm yn 145, wrth i Andrew Salter gael ei ddal gan y maeswr agos Tim Phillips oddi ar fowlio Tom Westley, a gobeithion Morgannwg o sicrhau’r fuddugoliaeth wedi hen bylu. Adeiladodd Graham Wagg a James Harris bartneriaeth o hanner cant wrth i Forgannwg gyrraedd 200 ond roedd y canlyniad yn teimlo fel pe bai’n anochel o hyd wrth i’r bowlwyr barhau i roi pwysau ar y Cymry. Ac fe wnaeth y pwysau ddwyn ffrwyth yn y pen draw wrth i Greg Smith ganfod coes James Harris o flaen y wiced, a Morgannwg yn plymio i 221-8. Cyrhaeddodd Wagg ei hanner cant yn fuan wedyn wrth i Dean Cosker ymuno ag e yn y canol. Toc wedi 6yh, cymerodd Swydd Essex yr amser ychwanegol oedd ar gael iddyn nhw geisio cipio’r ddwy wiced am y fuddugoliaeth, ac fe gymeron nhw’r bêl newydd yn fuan wedyn. Roedd Graham Wagg yn 64* ar ddiwedd y dydd a Morgannwg wedi cyrraedd 237-8.
Dyfarnwyr: A Wharf, P Baldwin
Galwodd Swydd Essex yn gywir a phenderfynu batio’n gyntaf