Diwrnod 2: Morgannwg 118-7 (Panesar 4-26, Napier 3-11), Swydd Essex 131-5

Sesiwn 1: Cymysgedd o gyflymdra Graham Napier a throelli Monty Panesar sicrhaodd fod Swydd Essex ar y droed flaen ar ddiwedd y sesiwn gyntaf ar yr ail ddiwrnod. Roedd Morgannwg yn 27-1 ar ddechrau’r bore, wedi colli Will Bragg yn hwyr neithiwr. Collodd Morgannwg dair wiced gynta’r bore o fewn tair pelawd, a’r gyntaf ohonyn nhw oddi ar belen gynta’r bore wrth i Napier waredu ar Jacques Rudolph, y batiwr yn canfod dwylo Jesse Ryder yn y slip. Collodd Morgannwg ddwy wiced yn y belawd nesaf wrth i Napier fowlio’r noswyliwr Andrew Salter a chanfod coes Chris Cooke o flaen y wiced wrth i Forgannwg lithro i 36-4. Cafwyd ychydig o adfywiad yn y batio diolch i Murray Goodwin ond cafodd ei atal gan Panesar wrth i’r troellwr llaw chwaith daro coes y batiwr o flaen y wiced. Y batiwr nesa i golli’i wiced oedd y capten Mark Wallace, wedi’i ddal gan Ryder yn y slip, ac fe ddilynodd Graham Wagg yn ddiweddarach yn ystod pelawd ola’r sesiwn, wedi’i ddal gan Tom Westley yn y slip oddi ar Panesar. Morgannwg 118-7

Sesiwn 2: Collodd Morgannwg eu tair wiced olaf am 43 yn ystod sesiwn y prynhawn, wrth i Jesse Ryder gipio dwy a Monty Panesar un, ac fe lwyddodd y Cymry felly i osgoi gorfod canlyn ymlaen. Ond roedd gan Swydd Essex flaenoriaeth batiad cyntaf o 125 wrth iddyn nhw ddod allan i ddechrau’r ail fatiad. Dechrau digon cadarn gafodd Morgannwg wedyn, wrth i Michael Hogan waredu ar Nick Browne, wedi’i ddal gan Dean Cosker. Gyda’r cyfanswm yn 30, cyrhaeddodd Hogan y garreg filltir o hanner cant o wicedi am y tymor wrth i Ravi Bopara ddychwelyd i’r pafiliwn – yr ail dro i’r Awstraliad gyrraedd yr hanner cant yn ystod ei yrfa fer gyda Morgannwg. Cipiodd Hogan drydedd wiced cyn te, wrth i Tom Westley gael ei ddal gan Murray Goodwin, yr ymwelwyr yn 39-3. Swydd Essex 42-3

Sesiwn 3: Cipiodd Jim Allenby bedwaredd wiced Morgannwg yn fuan wedi’r egwyl. Gwnaeth James Foster ddarganfod dwylo Chris Cooke yn y slip ond fe wyrodd y bêl oddi arno fe i fenyg y wicedwr Mark Wallace, wrth i Swydd Essex gyrraedd 59-4. Yn dilyn cyfnod tawel i fatwyr yr ymwelwyr, cafodd Jesse Ryder ei ddal gan Jacques Rudolph oddi ar fowlio Hogan wrth i Swydd Essex gyrraedd 82-5. Ychydig belenni’n ddiweddarach, daeth cyfle i gipio wiced y batiwr newydd, Greg Smith oodi ar y belen gyntaf a wynebodd ond fe ollyngodd Rudolph y daliad. Cyrhaeddodd yr ymwelwyr y 100 gyda Ryan ten Doeschate a Greg Smith yn dechrau edrych yn gyfforddus wrth y llain. Nid tan pelawdau ola’r dydd y bowliodd y ddau droellwr, Dean Cosker ac Andrew Salter gyda’i gilydd ond roedd hi’n rhy hwyr iddyn nhw wneud fawr o argraff wrth i’r ymwelwyr orffen y dydd ar 131-5, gyda blaenoriaeth o 256. Swydd Essex 131-5

Crynodeb Diwrnod 1