Cipiodd bowliwr lled-gyflym Morgannwg, Jim Allenby bum wiced yn erbyn Swydd Essex ar ddiwrnod cyntaf eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn Sain Helen.

Ar lain sy’n fwy addas ar gyfer y troellwyr, gwnaeth y dacteg o wyrdroi’r bowlwyr cyflym ddwyn ffrwyth i Forgannwg wrth iddyn nhw gyfyngu’r ymwelwyr i gyfanswm cymharol ddi-nod.

Daeth pob un o wicedi Allenby yn y sesiwn ar ôl te, y gyntaf ohonyn nhw’n allweddol i Forgannwg wrth i Nick Browne (77) ddychwelyd i’r pafiliwn a’r gyfradd sgorio’n dechrau arafu.

Cipiodd Allenby ail wiced yn gymharol fuan wedi’r gyntaf, yr is-gapten y tro hwn yn gwaredu ar Greg Smith wrth i’r batiwr ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Mark Wallace.

Daeth y drydedd wrth i Graham Napier daro’n syth at Michael Hogan oedd yn maesu’n lled-agos ar yr ochr agored, a Swydd Essex bellach yn 252-7.

Cafodd bowlio syth Allenby ei wobrwyo gyda dwy wiced lle’r oedd coesau’r batwyr o flaen y wiced, y ddau anffodus oedd Ryan ten Doeschate a Monty Panesar wrth i’r ymwelwyr orffen eu batiad ar 286.

Fe fydd rhaid i Hogan aros tan yr ail fatiad i weld a fydd e’n gallu cyrraedd y nod o hanner cant o wicedi ar gyfer y tymor cyn diwedd yr ornest hon.