Mae Morgannwg wedi enwi eu carfan ar gyfer gornest ugain pelawd y T20 Blast yn erbyn Gwlad yr Haf nos fory.

Does dim newidiadau i’r garfan a drechodd Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Mae Morgannwg yn y pedwerydd safle yn y tabl, tra bod Gwlad yr Haf yn seithfed wedi i’r ddwy sir chwarae tair gêm yr un hyd yn hyn.

Un fuddugoliaeth yn unig y mae Gwlad yr Haf wedi’i chael yn y gystadleuaeth y tymor hwn, tra bod Morgannwg wedi ennill dwy allan o dair.

Ond dim ond unwaith erioed mae’r Cymry wedi bod yn fuddugol yn y gystadleuaeth hon yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton, a hynny yn 2004 pan sgoriodd Ian Thomas 116 – yr unig ganred gan fatiwr Morgannwg erioed yn y gystadleuaeth ugain pelawd.

Morgannwg oedd yn fuddugol y tymor diwethaf yn Stadiwm Swalec.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, M Goodwin, C Cooke, B Wright, D Sammy, G Wagg, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan