Mae’r byd seiclo wedi cael hwb yn sgil perthynas newydd rhwng Seiclo Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Nod y cytundeb fydd cryfhau’r cyswllt rhwng y ddau gorff er mwyn hyrwyddo’r gamp a chyfleoedd addysg ledled Cymru.

Mae mwy na 110 o glybiau’n aelodau o Seiclo Cymru, o lefel llawr gwlad i safon Gemau’r Gymanwlad.

Mae gan y brifysgol gyswllt eisoes â rhanbarth rygbi’r Gleision, Clwb Pêl-Droed Caerdydd a chlwb pêl-rwyd y Dreigiau Celtaidd.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon, Iechyd a Lles Prifysgol De Cymru, Alun Davies: “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cadarnhau’r bartneriaeth gaeth sydd gyda ni gyda chynifer o fyfyrwyr.

“Mae seiclo’n brif ffocws yng Nghymru a’r DU, ac ynghyd â Seiclo Cymru fe fyddwn ni’n gallu hyrwyddo’r cyfleoedd academaidd a chwaraeon sydd ar gael i bawb.

Ychwanegodd prif weithredwr Seiclo Cymru, Anne Adams-King: “Rydyn ni’n falch dros ben o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru yn y fenter newydd gyffrous hon.

“Bydd ein cydweithrediad, yn ddiau, yn helpu i yrru ein hagenda ni’n dau yn natblygiad seiclo ac addysg, sydd yn gam positif tuag at genedl fwy iach.”