Jim Allenby
Daeth y glaw i achub Morgannwg ar ddiwrnod olaf eu gornest yn erbyn Swydd Essex yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw.

Gosododd Morgannwg nod o 215 i’r tîm cartref yn ystod sesiwn ola’r pedwerydd diwrnod, oedd yn edrych o’r dechrau fel pe bai’n mynd i gael ei heffeithio gan y tywydd.

Mewn ymgais i gyrraedd y nod, cafodd Jesse Ryder a Mark Pettini eu symud i fyny’r rhestr fatio i wynebu Michael Hogan a Graham Wagg.

Ychydig dros belawd yn unig barodd Pettini cyn cael ei ddal gan Jim Allenby yn y slip, cyn i Ryder ddarganfod dwylo Will Bragg yn yr ochr agored.

Daeth y glaw pan oedd cyfanswm Swydd Essex yn 28-2 a phenderfynodd y ddau gapten ddod â’r gêm i ben.

Un o’r sêr i Forgannwg unwaith eto oedd y batiwr agoriadol, Will Bragg a sgoriodd 93 yn y batiad cyntaf.

Sgoriodd Chris Cooke 68 yn ddiweddarach, yn dilyn ei 65 yn y T20 Blast yn erbyn Swydd Sussex yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf.

Ond gwir seren y batiad i Swydd Essex oedd y bowliwr cyflym Reece Topley, a gipiodd chwe wiced am 41  i gyfyngu Morgannwg i gyfanswm batiad cyntaf o 244.

Y wicedwr James Foster oedd seren fatio Swydd Essex (250 i gyd allan), gydag 86 o rediadau yn y batiad cyntaf, a allai gryfhau ei siawns o gynrychioli Lloegr yn ystod y gyfres brawf yn erbyn India yn ystod yr haf – yr unig ffactor yn erbyn y wicedwr 34 oed bellach yw ei oedran.

Sgoriodd Jim Allenby 79 yn yr ail fatiad i helpu’r ymelwyr i osod nod o 218 i Swydd Essex ennill ar y diwrnod olaf.

Ond gyda’r glaw yn disgyn, dim ond chwe phelawd gafodd eu bowlio gan Forgannwg, ac fe fu’n rhaid rhannu’r pwyntiau.