Enillodd Morgannwg eu gornest gyntaf yng nghystadleuaeth T20 Blast heno o 10 rhediad yn erbyn Swydd Hampshire yn Southampton.

Cafodd yr ymwelwyr eu gwahodd i fatio’n gyntaf wedi iddyn nhw golli’r dafl yn y cae lle collon nhw’n gynharach yr wythnos hon yn ail adran y Bencampwriaeth.

Capten Morgannwg yn y gystadleuaeth hon, Jim Allenby gafodd ei enwi’n seren yr ornest, wedi iddo osgoi cael ei daro i’r ffin yn ystod ei bedair pelawd, a gorffen gyda ffigurau o 0-19.

Ond roedd y capten arferol, Mark Wallace o dan y chwyddwydr beth bynnag heno, wedi iddo ychwanegu ei enw at restr o chwe chwaraewr arall sy wedi ymddangos mewn 100 o gemau yn y T20.

Y Cyfnod Clatsio

Morgannwg fanteisiodd orau ar y cyfnod clatsio wrth iddyn nhw gyrraedd 51-1 o fewn y chwe phelawd – o’i gymharu â 42-2 i Swydd Hampshire o fewn yr un cyfnod.

Y chwaraewr tramor o Dde Affrica, Jacques Rudolph a’r Awstraliad Jim Allenby agorodd y batio, ac roedd eu bwriad i glatsio o’r cychwyn cyntaf yn glir.

Ergydiodd Allenby belen gynta’r ornest i’r ffin oddi ar Matt Coles a buan yr ymunodd Rudolph yn yr hwyl i ymestyn cyfanswm yr ymwelwyr i 16-0 oddi ar ddwy belawd.

Ychwanegodd Rudolph at hunllef Coles gyda thair ergyd yn olynnol i’r ffin i bob cyfeiriad yn ei ail belawd.

Ond daeth hwyl a sbri’r Cymry i ben yn ystod y bedwaredd pelawd, wrth i Allenby gael ei stympio gan Michael Bates wrth lamu i lawr y llain a chael ei dwyllo gan y troellwr Danny Briggs, y cyfanswm bellach yn 36-1.

Cyrhaeddodd Morgannwg 46-1 erbyn diwedd y bumed pelawd, gyda Rudolph wedi cyrraedd 21 erbyn i’r wicedwr Mark Wallace ddod i’r llain.

51-1 oedd cyfanswm Morgannwg erbyn diwedd y cyfnod clatsio, a’r pelawdau cychwynnol wedi gosod y seiliau ar gyfer gweddill y batiad.

Ond chwalu wnaeth Swydd Hampshire yn eu cyfnod clatsio nhw wrth iddyn nhw anelu am 162 am fuddugoliaeth.

Y capten James Vince a batiwr llaw chwith Lloegr, Michael Carberry agorodd y batio ac fe ddefnyddiodd Morgannwg y dacteg gyfarwydd o gychwyn y batiad gyda phelawd gan droellwr – Andrew Salter gafodd y fraint honno heno.

Y bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg agorodd o’r pen arall, wrth i’r tîm cartref gyrraedd 13-0 oddi ar ddwy belawd.

Ond Will Owen gafodd y wiced gyntaf wrth iddo fowlio Carberry am bedwar rhediad yn unig.

Cipiodd Owen ei ail wiced yn ei belawd nesaf wrth i Chris Cooke ddal y bêl oddi ar Jimmy Adams tra’n maesu’n agos yn safle’r goes fain, a Swydd Hampshire yn cyrraedd 42-2 erbyn diwedd y chweched pelawd.

Y pelawdau canol

Ym marn yr arbenigwyr, y pelawdau canol all lywio’r ornest ac roedd hynny’n sicr yn wir heno wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 123-4 erbyn diwedd y bymthegfed pelawd.

Collodd Morgannwg ddwy wiced yn ystod y cyfnod hwn, gyda Rudolph yn cael ei stympio gan Bates oddi ar Briggs am 34 oddi ar 21 o belenni yn ystod batiad oedd yn cynnwys saith ergyd i’r ffin.

Cafodd Murray Goodwin dipyn o lwc wrth i’r batiwr newydd gael ei ollwng yn y cyfar heb sgorio.

Hanner ffordd, roedd Morgannwg wedi cyrraedd 83-2, gyda Wallace bellach yn 24 heb fod allan.

Ond buan y dychwelodd i’r cwtsh am 33 wedi iddo gael ei ddal yng nghanol-wiced gan Dawson, ac roedd Goodwin yn dynn ar ei sodlau wrth i Forgannwg gyrraedd 123-4.

Y pelawdau canol, ar y llaw arall, oedd dechrau’r hunllef i Swydd Hampshire wrth iddyn nhw golli Dawson oedd wedi’i anafu yn y nawfed pelawd.

Daeth Carberry i’r canol fel rhedwr cyn i Dawson orfod ymddeol belawd yn ddiweddarach, a Swydd Hampshire yn wynebu nod o 100 o rediadau oddi ar ddeg pelawd.

Gyda gobeithion Swydd Hampshire o ennill yn dechrau pylu, roedd rhaid i rywun afael ym mowlio Morgannwg a mynd amdani.

Cyfrifoldeb y capten James Vince oedd hynny, wrth iddo daro’r troellwr ifanc am chwech, cyn i’r bowliwr ifanc ymateb drwy ei annog i lawr y wiced ac roedd Wallace yn barod i’w stympio.

Parhaodd y clatsio dan ofal Coles, wrth iddo daro tair ergyd dros y ffin – dwy oddi ar Will Owen cyn cael ei ollwng gan Wallace, a’r llall oddi ar Dean Cosker.

Y tîm cartref, felly, yn 111-5 wrth fynd i mewn i’r pelawdau clo.

Y pelawdau clo

Wrth i Forgannwg glatsio yn y pum pelawd olaf, roedd yn anochel y bydden nhw’n colli wicedi – Ben Wright wedi’i ddal gan Dawson yn safle’r canol-wiced pell oddi ar fowlio Coles.

Collodd Cooke ei wiced am 20 rhediad yn fuan wedyn cyn i Graham Wagg daro dwy ergyd i’r ffin yn ystod batiad o 18 heb fod allan.

Cwympodd un wiced arall cyn diwedd y batiad, gyda Ruaidhri Smith yn cael ei fowlio gan belen araf gan Coles i ddechrau’r belawd.

Llwyddodd yr ymwelwyr i gyrraedd 161-7, gyda Wagg yn 21 heb fod allan.

51 oedd y nod, felly, i Swydd Hampshire oddi ar 30 o belenni olaf y batiad ond byddai’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar y bowlwyr i’w tywys nhw i’r fuddugoliaeth.

Y troellwr Dean Cosker deimlodd ddicter batwyr Swydd Hampshire yn yr unfed belawd ar bymtheg wrth iddo gan ei daro i’r ffin dair gwaith i ildio 17 rhediad yn y belawd.

Ond collodd Sean Ervine ei wiced belawd yn ddiweddarach, wedi’i fowlio gan Will Owen gyda phelen araf.

Dim ond dau rediad gafodd Swydd Hampshire yn y belawd nesaf, a’r nod bellach yn 31 rhediad oddi ar dair pelawd.

Roedd y panic yn dechrau dod i’r wyneb wrth i Will Smith gael ei redeg allan wrth geisio rhediad cyflym, gan adael ei dîm yn wynebu nod o 18 rhediad oddi ar y belawd olaf.

Ond diolch i fowlio tynn gan Wagg, cwympodd Swydd Hampshire 10 rhediad yn brin, wedi iddyn nhw golli Coles am 42.

Roedd y fuddugoliaeth yn dal yn bosib gyda nod o 12 oddi ar ddwy belen, ond pelen ddi-sgôr a ddilynodd i selio’r canlyniad.

Galwodd Swydd Hampshire yn gywir a gwahodd Morgannwg i fatio

Morgannwg: 161-7 (Rudolph 34, Wallace 33; Briggs 3-26, Coles 2-30)

Swydd Hampshire: 151-6 (Coles 42, Vince 38; Owen 3-32)