Mae Morgannwg wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 yn Southampton nos fory.
Fe lwyddodd y Cymry i drechu Swydd Hampshire yn yr Ageas Bowl yn y gystadleuaeth 40 pelawd y tymor diwethaf.
Jim Allenby oedd seren yr ornest i Forgannwg bryd hynny a’r Awstraliad fydd yn gapten ar ei dîm yn y gystadleuaeth ugain pelawd eleni.
Unwaith yn unig mae Morgannwg wedi trechu Swydd Hampshire mewn gornest ugain pelawd, a hynny yn 2010.
Dyna’r tro cyntaf ers 2004 iddyn nhw drechu eu gwrthwynebwyr mewn gornest undydd yn yr Ageas Bowl.
Mae Morgannwg wedi cynnwys eu batiwr agoriadol llaw chwith newydd, Tom Lancefield yn y garfan 13 dyn, ac mae lle hefyd i’r arbenigwr undydd Chris Cooke.
Fe fydd cyfle cyntaf y tymor hwn hefyd i weld y batiwr Ben Wright a’r troellwr Andrew Salter sydd heb chwarae yn y Bencampwriaeth hyd yn hyn.
Does dim lle yn y garfan i’r batwyr agoriadol llaw chwith Gareth Rees a Will Bragg nac i’r bowliwr cyflym llaw chwith 19 oed, Tom Helm sydd ar fenthyg o Swydd Middlesex.
Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 7yh.
Carfan Morgannwg: T Lancefield, J Rudolph, C Cooke, B Wright, M Goodwin, S Walters, J Allenby (capten), M Wallace, G Wagg, A Salter, R Smith, D Cosker, W Owen
Carfan Swydd Hampshire: J Vince (capten), K Abbott, J Adams, M Bates, D Briggs, M Carberry, M Coles, L Dawson, S Ervine, J Gatting, W Smith, J Tomlinson, A Wheater