Cipiodd Dean Cosker 5-46
Mae batwyr Morgannwg wedi sicrhau gêm gyfartal i’r sir ar ddiwrnod olaf yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Stadiwm Swalec.
Dean Cosker (4*) a Michael Hogan (19*) oedd wrth y llain pan ddaeth yr ornest i ben toc cyn 5.45pm.
Roedd Cosker eisoes wedi cipio 5 wiced am 46 o rediadau yn ystod batiad Swydd Gaerloyw, ac fe lwyddodd e a Michael Hogan i atal Swydd Gaerloyw rhag cipio’r wiced fuddugol ar y diwrnod olaf a gafodd ei gwtogi oherwydd y glaw.
Dechreuodd y diwrnod olaf awr yn hwyr am 12yh, gyda mantais o chwe rhediad i Swydd Gaerloyw, a Will Bragg a Murray Goodwin wrth y llain i Forgannwg.
Sicrhaodd Bragg a Goodwin bartneriaeth o hanner cant cyn i Goodwin golli’i wiced wrth gael ei fowlio gan Will Gidman.
Cyfuniad o ddau Gidman gipiodd wiced Jim Allenby ddwy belawd yn ddiweddarach, wrth i’r Awstraliad gyfeirio’r bêl oddi ar fowlio Will i’r brawd hŷn, Alex yn safle’r slip cyntaf.
Cyrhaeddodd Morgannwg 100 o rediadau gyda Bragg a’r capten, Mark Wallace wrth y llain.
Collodd Bragg ei wiced wrth gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Cameron Herring oddi ar fowlio Tom Smith, a’r sgôr yn 106-6.
Cyrhaeddodd Morgannwg 118-6 erbyn amser cinio, ond doedd dim modd ail-ddechrau wedi’r egwyl oherwydd y glaw unwaith eto.
Daeth y chwaraewyr yn ôl i’r cae am 4.45yh, gydag unrhyw obaith o fuddugoliaeth i’r un o’r ddau dîm wedi hen bylu.
Doedd hynny ddim yn golygu sesiwn ddiflas, fodd bynnag, wrth i Swydd Gaerloyw fynd amdani yn y gobaith o gipio’r pedair wiced am y fuddugoliaeth.
Roedd gan Forgannwg flaenoriaeth o 32 o rediadau erbyn i’r chwarae ail-ddechrau, a’r nod i’r batwyr oedd atal Swydd Gaerloyw rhag cael y cyfle i anelu am nod cymharol isel pe baen nhw’n batio eto.
Collodd Graham Wagg ei wiced am 1 rhediad, gyda’r cyfanswm bellach yn 121-7, ac fe ddilynodd Ruadhri Smith yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Herring oddi ar Will Gidman.
Blaenoriaeth i Forgannwg, felly, o 35 o rediadau wrth i Dean Cosker ddod i’r llain, ac fe lwyddodd i atal Gidman rhag cipio hat-tric.
Cyfuniad o Herring a Will Gidman unwaith eto a sicrhaodd fod capten Morgannwg, Mark Wallace yn dychwelyd i’r pafiliwn wedi ychwanegu 15 o rediadau at gyfanswm Morgannwg.
Cyfrifoldeb Cosker a Michael Hogan, felly, oedd sicrhau na fyddai’r ymwelwyr yn cipio’r wiced olaf.
Wrth i’r bartneriaeth ddechrau, roedd Morgannwg 50 o rediadau ar y blaen, gydag 11 o belawdau’n weddill.
Llwyddodd y ddau i sefyll eu tir, gyda Hogan yn gorffen ar 19* a Cosker ar 4*.
Mae Morgannwg (8 pwynt) yn parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth, felly, ac mae Swydd Gaerloyw yn gorfod bodloni ar naw pwynt, gan gynnwys un pwynt bonws.