Shahid Afridi
Yn y darn cyntaf mewn cyfres, gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n ystyried sut gall gwleidyddiaeth gymylu ffiniau hunaniaeth genedlaethol ym myd y campau…
Does yna’r un maes sy’n well na chwaraeon am orfodi dyn i gwestiynu neu ddatgan ei hunaniaeth. Does ond angen gofyn i gapten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton.
A bod yn deg â fe, gall hunaniaeth ym myd y bêl hirgron gael ei chymylu gan fater y Llewod. Wrth gwrs bod capten Cymru’n Gymro – all neb wadu hynny. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, ei rieni o’r ochr draw i’r ffin. Digon o reswm, meddai, i beidio casáu’r Saeson! Ei union eiriau am genedligrwydd oedd “pe bai rhywun wedi gofyn i fi am fy nghenedligrwydd… fe ddywedwn i Brydeinig”.
Bu bron iddo yngan “ar y daith” – ond trwy faglu dros ei eiriau, dyna gyfle euraid wedyn i’r wasg (a Jonathan Edwards) lenwi’r bwlch.
Ond a yw datgan eich bod yn Brydeinig – wrth gynrychioli’r Llewod, beth bynnag – wedyn yn dibrisio eich Cymreictod? Dyna geisiodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards ei awgrymu ar ei drydar yr wythnos diwethaf. Fe drodd sylw “ffwrdd-â-hi” yn gyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Cwympodd Edwards ar ei fai, ond fydd Leighton Andrews ddim yn gadael iddo anghofio’i faux-pas am sbel eto. Treuliodd dipyn o’i benwythnos yn ail-drydar y cyfrif parodi @NotJonnyPlaid! Gweler @JonathanPlaid ac @LeightonAndrews!
Wrth dynnu llinell o dan y mater hwnnw, rhaid pwysleisio bod byd o wahaniaeth rhwng gelyniaeth ar y maes chwarae, ac erledigaeth am resymau ehangach.
Dychmygwch olygfa ym mhen draw’r byd. Grŵp o fyfyrwyr prifysgol – cynhalwyr economi’r dyfodol, y deallusion os liciwch chi – yn ymgynnull o flaen set deledu mewn neuadd breswyl. Ar y teledu, mae batiwr amryddawn Pacistan, Shahid Afridi yn clatsio’r bêl i bob cyfeiriad. Nid gêm gyffredin mohoni chwaith. Gêm gwpan yw hi rhwng Pacistan ac India. India ar fin colli, diolch i glatsio di-ildio’r gŵr o Bacistan.
Wrth ddathlu gwledd o griced, waeth bynnag am y canlyniad, fe lwyddon nhw i ypsetio’u cyd-fyfyrwyr. Un weithred fach, mentraf awgrymu yn fy adroddiad ar Golwg360 yma, yn troi’n ffrae wleidyddol, grefyddol a chyfreithiol am fradychu tîm criced.
Diolch i’r drefn na chawson nhw eu herlyn wedi’r cyfan, ond fe gawson nhw eu diarddel o’r brifysgol. Maen nhw hefyd yn wynebu cyhuddiadau o hyd o amharu ar gytgord cymunedol.
Wrth i densiynau waethygu yn rhanbarth Kashmir, yn enwedig ers 2010, mae India wedi ceisio erlyn llawer iawn mwy o bobol nag arfer o dan ‘Adran 124A’ eu cyfansoddiad. ‘Sedition’ yw’r drosedd honedig – y weithred o fradychu cyfansoddiad neu lywodraeth y wlad. Y gosb? Posibilrwydd o garchar am oes, er bod rhai sylwebwyr yn awgrymu y byddai tair blynedd dan glo yn fwy tebygol. Ond yn ôl pob tebyg, fyddai’r achos ddim hyd yn oed wedi cyrraedd y llys yn y pen draw, diolch i system gyfreithiol ddiffygiol.
Dangosodd y ffrae ar gampws Prifysgol Swami Vivekanand Subharti yn rhanbarth Kashmir fod hen densiynau rhwng dwy wlad oedd yn arfer bod yn un, yn parhau’n bwnc sensitif dros 60 o flynyddoedd ers iddyn nhw wahanu. Bu rhanbarth Kashmir yn atgof ar hyd y blynyddoedd o’r frwydr dros rym ac annibyniaeth yn 1947.
Pan wahanodd India a Phacistan, Kashmir oedd y darn gwyddbwyll mewn gêm ffyrnig a gwaedlyd. I India, roedd yn symbol o’r hyn a gollwyd pan sefydlwyd Pacistan yn wlad annibynnol. I Bacistan, symbol o fywyd newydd a gobaith ydoedd, ac arf bwysig iawn wrth sicrhau hawliau sylfaenol. Wrth i ddinasyddion y rhanbarth glosio at Bacistan, teimlai llywodraeth India eu bod nhw’n dechrau colli eu gafael arni. Fe wnelen nhw unrhyw beth i’w chael yn ôl o dan eu rheolaeth. Fyddai hynny ddim yn hawdd i wlad aml-ffydd mewn rhanbarth lle’r oedd traean o’r boblogaeth yn 1947 yn Foslemiaid.
Wrth i Indiaid a Phacistaniaid ddechrau meithrin ymdeimlad o genedligrwydd newydd, felly hefyd y cynyddodd eu cefnogaeth i’w timau criced cenedlaethol. Daeth rhai, wrth gwrs, i wledydd Prydain a magu trydydd math o genedligrwydd – Asiaidd Prydeinig. Y garfan hon sy’n cymylu ffiniau cenedligrwydd, fel y mae Prydeindod yn cymylu’r cenedligrwydd Cymreig.
Mae rhai yn parhau i gefnogi eu mamwlad a’r gweddill wedi troi eu golygon at eu gwlad fabwysiedig, y garfan o bobol a elwir yn ‘gnau coco’ – brown yr olwg ond gwyn ar y tu mewn. Dyma bwnc a gafodd gryn sylw diolch i’r ‘Tebbit Test’ fondigrybwyll. Honnodd yr Arglwydd Norman Tebbit – yn hiliol, yn ôl rhai – y gellir ei ddefnyddio i fesur graddau integreiddio mewnfudwyr i Brydain. Awgrym hollol wan oedd hwn, nad oedd ond yn crafu’r wyneb.
Mae’r un prawf ar waith hyd heddiw yn rhanbarth Kashmir, ond mewn ffordd llawer mwy cyfrwys yng nghyd-destun India a Phacistan. Cyfeiria Saeed Naqvi yn ei waith ar berthynas India a Kashmir at achos bachgen bach wyth mlwydd oed. Pan ofynnodd Naqvi iddo a oedd e’n hoffi’r arwr o Bacistan, Imran Khan, fe blygodd ei ben mewn cywilydd a cherdded i ffwrdd. Roedd y weithred fympwyol honno’n adrodd cyfrolau.
Er bod colled genedlaethol yn erbyn yr hen elyn ddydd Sul wedi ein gorfodi i symud ymlaen oddi wrth saga Warburton, mae’n sicr wedi codi cwestiynau am ein hunaniaeth yma yng Nghymru. Yn Kashmir, mae mater hunaniaeth yn fwy peryglus ac yn debygol o rygnu ymlaen.