Simon Jones
Dim ond tair pelen oedd ar ôl pan drawodd y bowliwr Simon Jones ergyd bedair i ennill gêm allweddol i Forgannwg.
Mae’r fuddugoliaeth o un wiced tros Wlad yr Haf – Somerset – yn golygu eu bod yn aros yn ail yn eu hadran yn y gystadleuaeth 40 pelawd.
Ar un adeg, roedd hi’n ymddangos bod y Cymry am ennill yn gyfforddus ond, erbyn y belawd ola’, dim ond un wiced oedd ar ôl ac roedd angen un rhediad.
Dyna pryd y daeth Simon Jones i’r adwy a sgorio’r rhediadau allweddol ar ôl cipio dwy wiced ym matiad Gwlad yr Haf.
Ond roedd y diolch am y fuddugoliaeth yn benna’ i Mark Wallace a sgoriodd 70 mewn 57 pelawd a Michael Hogan a gymerodd bedair wiced am 34 o rediadau.
Y sgorio
Roedd Gwlad yr Haf wedi sgorio 222 am 8 yn eu batiad nhw.
Ar ôl 7 pelawd, roedd Morgannwg wedi croesi’r 50.
Ar ôl 15, roedden nhw wedi croesi 100 ond, ar ôl hynny, fe gollon nhw wicedi a chael eu dal yn ôl.