Mae’r cyn-gricedwr Brian Rose wedi dweud mewn adroddiad bod angen i ddoniau cricedwyr ifanc yng Nghymru gael eu meithrin er lles dyfodol Clwb Criced Morgannwg.
Cafodd cyn-gapten a chyn-Gyfarwyddwr Criced Gwlad yr Haf ei benodi’n ymgynghorydd answyddogol haf diwethaf i awgrymu gwelliannau, yn dilyn nifer o dymhorau siomedig ar y cae i Forgannwg.
Mae’r adroddiad yn cefnogi nifer o argymhellion Morgannwg a gafodd eu hamlinellu yng Nghynllun Strategol y clwb yn gynharach eleni.
Mae’r adroddiad yn awgrymu bod angen i Forgannwg gydweithio’n agosach gyda Chriced Cymru i ddatblygu sgiliau chwaraewyr 11 i 15 oed.
Dywedodd yn ei adroddiad fod sylfeini cadarn eisoes yn eu lle a bod angen datblygu ar bartneriaethau gyda Chriced Cymru, Siroedd Llai Cymru, Canolfan Ragori Prifysgol Caerdydd ac Uwch Gynghreiriau Criced Cymru.
Fe fydd Brian Rose yn parhau yn ei rôl fel ymgynghorydd tan ddiwedd y tymor.
Dywedodd cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, Barry O’Brien: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Brian Rose am roi sêl bendith annibynnol i Bwyllgor Morgannwg i’n Cynllun Strategol.
“Tra bod Brian wedi gwneud nifer o argymhellion manwl, mae’n rhannu safbwynt y Pwyllgor mai’r allwedd i lwyddiant cynaliadwy yw datblygu niferoedd cynyddol o chwaraewyr cartref.
Dywedodd Brian Rose: “Wrth lunio fy adroddiad, rwy wedi fy mhlesio gan angerdd a brwdfrydedd pawb a’u parodrwydd di-wyro i drawsnewid llwyddiant criced yng Nghymru.
“Fe fydd gofyn am waith caled a sylweddoliad am y safonau sydd eu hangen er mwyn cael canlyniadau mewn awyrgylch cystadleuol.”
Ychwanegodd Pennaeth Perfformiad Elit Morgannwg, Matthew Mott ei fod yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda Brian Rose.
“Fe fydd ei brofiad helaeth yn sylweddol fuddiol i Forgannwg a chriced yng Nghymru ac o safbwynt personol, rwy’n edrych ymlaen at rannu syniadau, ynghyd â gweddill y tîm hyfforddi, gyda’r fath ymgynghorydd profiadol.”