Mae Andy Murray wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Awstralia, y dyn cynta’ o Brydain i gyflawni’r gamp.
Fe gurodd Roger Federer yn Melbourne. Bu’n rhaid i’r Albanwr chwarae’r pump set llawn i guro Federer, y ddau yn chwarae am bedair awr y bore yma.
Y sgôr terfynol oedd 6-4 6-7 (5-7) 6-3 6-7 (2-7) 6-2.
Bydd Murray yn herio Novak Djokovic, chwaraewr gorau’r byd, yn y rownd derfynol ddydd Sul, a fydd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar y BBC.
Llwyddodd Djokovic i gyrraedd y rownd derfynol yn hawdd, wrth guro David Ferrer mewn 3 set. Enillodd mewn llai na dwy awr, a’r sgôr terfynol yn 6-2 6-2 6-1.
Bydd Andy Murray yn herio Novak Djokovic am 8.30yb dydd Sul.