Mae Andy Murray wedi ennill ei gêm gynderfynol ym Mhencampwriaeth agored Awstralia yn erbyn Roger Federer.
Enillodd y set gyntaf o 6-4 yn y gyntaf, gan guro’r set mewn 45 munud ym Melbourne. Torrodd Murray yn gynnar yn y set i gyrraedd 3-1, cyn rhoi pwysau ar y dyn o’r Swistir a chipio’r set yn weddol rwydd wedyn.
Roedd yr ail set yn gyfartal, 6-6, a llwyddodd Federer i fanteisio ar chwarae gwael gan Murray i gipio’r gêm benderfynol.
Daeth yr Albanwr yn ôl yn gryf yn y drydydd, gan ennill o 6-3 mewn 36 munud. Doedd Federer methu delio a gêm gorfforol Murray ar y cwrt caled yn Awstralia.
Torrodd Federer yn erbyn serf Murray yn y bedwerydd set, gan chwarae ergydion o’r safon uchaf i gyrraedd 4-1.
Bydd Murray yn mynd ymlaen i wynebu Novak Djokovic yn y rownd derfynol, wedi iddo guro David Ferrer yn hawdd ddoe.