Mae Geraint Thomas dal ar y blaen ar ôl y pedwerydd cymal yn Awstralia yn y ras beiciau Down Under.
Roedd rhaid i Thomas gadw’n glir o ddwy ddamwain yn y ddau gilomedr olaf.
Dau gymal sydd ar ôl yn y ras. Yfory fe fydd y beicwyr yn cychwyn y pumed cymal a fydd yn 151.5 Kilomedr o bellter, gyda thair lap a fydd yn dechrau yn McLaren Vale cyn y ddringfa olaf i fyny Old Willunga Hill.