Matthew Rees
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi fod y bachwr Matthew Rees yn gadael y rhanbarth ddiwedd y tymor ac yn ymuno â’r Gleision.

Yno bydd Rees yn ymuno gyda Phil Davies, a fu’n hyfforddwr arno ar Barc y Strade.

Mae’r bachwr 32 oed o Donyrefail wedi cynrychioli Cymru a’r Llewod ac wedi chwarae 175 o weithiau dros y Scarlets ers ymuno yn 2004.

Mae wedi ennill 57 cap dros Gymru ac roedd yn rhan bwysig o reng flaen y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 2009.

Gyrfa Rees

Dechreuodd ei yrfa yn y Cymoedd gyda Threorci ac yna Pontypridd a’r Celtic Warriors, cyn ymuno â’r Scarlets.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby fod Rees wedi ennill parch y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn y Gorllewin yn ystod ei gyfnod hir yn y rhanbarth.

Mae Rees wedi bod yn brwydro gyda Ken Owens am grys y bachwr ar Barc y Scarlets a bydd y ddau yn ail-afael yn y frwydr am grys 2 Cymru, gyda Richard Hibbard o’r Gweilch.

‘Atgofion melys’

Dywedodd Matthew Rees y bydd yn gadael ddiwedd y tymor gydag atgofion melys.

“Ry’n ni wedi profi amserau da iawn yn Ewrop a’r Gynghrair Celtaidd ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd yr wyf wedi eu cael,” meddai.