Nicole Cooke
Mae’r cyn-bencampwraig Olympaidd o Gymru, Nicole Cooke wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn ymddeol o seiclo proffesiynol.

Mae Cooke wedi bod yn cystadlu ers  yn 12 oed, ac ers hynny wedi ennill bron bob teitl ym myd seiclo.  Mae hi wedi ennill 10 Râs Brydain ac mae ganddi ddwy fedal o Gemau’r Gymanwlad yn 2002 a 2006.

Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn 2008, pan enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing ac yna Pencampwriaeth y Byd o fewn 2 fis i’w gilydd.

Mae Cooke wedi profi blynyddoedd llai llwyddiannus ers hynny, gan orffen yn safle 31 yng Ngemau Olympaidd Llundain, a nawr mae hi wedi penderfynu rhoi gorau i gystadlu, yn 29 oed.

Cyhoeddodd Cooke y newyddion mewn datganiad, ond defnyddiodd y cyfle hefyd i feirniadu’r rheiny sydd wedi defnyddio cyffuriau i ennill llwyddiant yn y gamp, yn enwedig Lance Armstrong a Tyler Hamilton, a bwrdd rheoli seiclo, yr UCI.