Nathan Cleverly
Bydd pencampwr bocsio is-drwm y WBO, Nathan Cleverly, yn amddiffyn ei deitl yn erbyn Robin Krasniqi ar 16 Mawrth.

Daw cyhoeddiad yr ornest pwysau is-drwm wedi i fwrdd rheoli’r WBO benderfynu y byddai’n rhaid i’r Cymro guro Krasniqi cyn cael siawns i herio un o enwau mawr y byd bocsio.

Ers curo Shawn Hawk ym mis Tachwedd, mae Cleverly wedi bod yn awyddus i sicrhau gornest yn erbyn pencampwr is-drwm arall, Beibut Shumenov, Chad Dawson neu Tavoris Cloud.  Ond yn gyntaf bydd yn rhaid cyflawni’r dasg anodd o guro Krasniqi, sydd wedi colli ond dwywaith yn ei yrfa.

“Bydd Krasniqi yn brawf caled i mi ac nid yw’n focsiwr i’w fychanu,” meddai Cleverly.  “Mae pob gornest yn hollbwysig i mi, ond mae mwy o bwysau i berfformio y tro yma, mae hynny’n rhywbeth dwi’n hoffi am fy mod i’n bocsio i orau fy ngallu pan mae’r pwysau arna’i.”

Hyd yn hyn mae Cleverly, o Gaerffili, wedi ennill pob un o’i 25 o ornestau proffesiynol, record y bydd yn ceisio ei efelychu yn Wembley.