Yn dilyn llwyddiant tenis cyffwrdd cyntaf cyn y Nadolig eleni, fe fydd Caerdydd yn cynnal  twrnamaint tenis cyffwrdd cyntaf prifysgolion Prydain y gwanwyn nesaf.

Fe ddaeth 50 o fyfyrwyr ynghyd i Glwb Tenis Lawnt Caerdydd i roi cynnig ar y fersiwn fyrrach hon o denis.

‘‘Roedd ein digwyddiad Nadoligaidd yn ddiwrnod gwych ym mhob ystyr.  Cafwyd llu o sylwadau positif oddi wrth bobl oedd heb chwarae o’r blaen.

“Mae’n ffordd wych o gyflwyno pobl i’r gêm ac mae’n cael ei chwarae mewn amgylchedd dymunol a hamddenol sydd ddim yn codi braw ar y chwaraewyr, ond sydd hefyd yn ddigon cystadleuol i’r sawl sy’n dymuno hynny!’’, meddai Simon Clarke, Swyddog Datblygu Tenis.

Fe fydd y twrnamaint cyntaf yn cael ei gynnal yng Ngerddi Sophia ar 13 Mawrth.

Mae’r twrnamaint  yn agored i’r holl brifysgolion.