Stadiwm Olympaidd
Llundain fydd yn cynnal Pencampwriaeth Paralympaidd Athletau’r Byd yn 2017.

Mae disgwyl i’r digwyddiad gael ei gynnal yn y Stadiwm Olympaidd ym mis Gorffennaf 2017, mis yn unig cyn i’r Stadiwm gynnal Pencampwriaeth Athletau’r Byd.

Bydd hyn yn golygu mai Llundain fydd y ddinas gyntaf i gynnal dwy brif bencampwriaeth yn olynol.

“Roedd y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 yn un o’r rhai gorau yr ydym wedi gweld erioed.  Mae disgwyl i’r safon parhau i fod yn uchel ar gyfer athletau’r byd,’’ meddai Xavier Gonzalez, prif weithredwr y pwyllgor  Paralympaidd rhyngwladol.

Mae tua £8.6 miliwn wedi cael ei roi tuag at gynnal y Bencampwriaeth.

Mae disgwyl i oddeutu 1,500 o athletwyr Paralympaidd o hyd at 100 o wledydd  gystadlu yn y Stadiwm Olympaidd yn Stratford.