Gall y penderfyniad gan UK Sport i ostwng y nawdd i ddatblygu nofio gael effaith andwyol ar Bwll Nofio Abertawe fel canolfan hyfforddi.

Dywedodd UK Sport ei bod wedi dosbarthu’r arian yn seiliedig ar y chwaraeon a wnaeth gyrraedd eu targedau o ran medalau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain eleni.

Fe fethodd y tîm nofio â chyrraedd ei tharged o bump i saith medal, gan ennill dim ond tri.  Nawr, mae’r nawdd wedi cael ei ostwng £4miliwn i £21.4 miliwn – gostyngiad o 14.9%.

Mae Abertawe yn un o bum canolfan hyfforddi nofio ym Mhrydain a bu’r nofwraig Baralympaidd Ellie Simmonds yn hyfforddi yno.

‘‘Bydd heddiw yn ddiwrnod da ar gyfer rhai a diwrnod poenus i eraill sydd heb gyrraedd y targed,’’ meddai Prif Weithredwr UK Sports Liz Nicholl.