Andy Murray
Mae Andy Murray wedi cyrraedd y drydedd rownd o’r US Open ar ôl curo Ivan Dodig.

Fe gymrodd y gêm lai na 2 awr i Murray gamu i’r rownd nesaf.  Fe enillodd y gêm heb golli set. (6-2, 6-1, 6-3).

Roedd Murray bach yn sigledig yn y rownd gyntaf yn erbyn Alex Bogomolov Jnr, ond nid oedd hynny’n rhwystr iddo ddod yn ôl a’i guro.

Mae’n debygol o wynebu Feliciano Lopez yn y rownd nesaf – roedd Murray wedi ei guro’r llynedd yn yr un gystadleuaeth.