Mae cyn amddiffynnwr tîm dan-23 Cymru, Ryan Edwards, wedi gadael Airbus UK Broughton i ymuno â Dinas Bangor.

Gwnaeth Edwards, 24, dros 200 o ymddangosiadau dros Airbus rhwng 2006 a 2012.

Ond fe adawodd y clwb yn ddiweddar ar ôl i’r rheolwr yno, Andy Preece, ddweud wrth Edwards nad oedd ei le yn y tîm bellach yn saff.

Yn ôl adroddiadau, bu’n rhaid iddo dalu’r clwb er mwyn gallu canslo’i gytundeb a symud ymlaen i Fangor.

“Rydym ni’n falch ofnadwy i gadarnhau ein bod ni wedi arwyddo’r amddiffynnwr Ryan Edwards,” meddai llefarydd ar ran Dinas Bangor.

Mae Edwards hefyd wedi cynrychioli Fflint, Derwyddon Cefn a Helygain United.