Syr Chris Hoy
Mae Syr Chris Hoy wedi ennill ei chweched fedal aur gan helpu  Prydain i gael ei Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus ers 1908.

Fe gipiodd y seiclwr ei fedal aur yn y Velodrome neithiwr gan olygu bod ganddo fwy o fedalau aur nag unrhyw bencampwr Olympaidd arall ym Mhrydain. Mae gan Syr Steve Redgrave pum medal aur.

Hyd yn hyn, mae gan Dîm GB 48 o fedalau – 22 aur, 13 arian, a 13 efydd.