Mae tîm Prydain wedi ennill eu 20fed medal aur yn y Gemau Olympaidd, eu cyfanswm mwyaf o fedalau aur ers 1908.
Llwyddon nhw i ennill 56 bryd hynny yn y Gemau yn Llundain.
Y tîm dressage gipiodd y fedal aur y prynhawn yma, gan guro’r Almaen yn Greenwich.
Enillodd Alistair Brownlee 19eg medal aur Prydain yn gynharach heddiw yn y triathlon yn Hyde Park.
Mae’r dressage yn gamp sy’n mesur cydsymudiad y ceffyl a’r reidiwr.
Hon yw’r fedal aur gyntaf erioed i Brydain yng nghamp y dressage i dimau.
Roedd arbenigwyr yn darogan cyn y Gemau y gallai Prydain orffen y gystadleuaeth â 27 o fedalau aur.