Brett Morse
Mae’r taflwr disgen o Gaerdydd, Brett Morse wedi dileu sylwadau wnaeth e ar Twitter am enillydd y fedal aur yng nghystadleuaeth y siot, Nadzeya Ostapchuk.

Roedd Morse wedi cyhuddo’r gystadleuwraig o Felarwsia o gymryd cyffuriau.

Ddydd Llun, methodd methodd Morse â chyrraedd y rownd derfynol ac yn ddiweddarach, ysgrifennodd ar ei dudalen Twitter: “Rwy wedi cael diwrnod gwael ond gallai fod yn waeth, mi allwn i fod yn edrych fel Ostapchuk.”

Ychwanegodd gyhuddiad yn ei herbyn ei bod wedi cymryd cyffuriau.

Roedd asiant Morse, yr athletwr Jamie Baulch, wedi dweud wrtho am ddileu’r sylwadau.

Dywedodd Baulch wrth y BBC: “Rwy’n credu bod pobl yn dweud pethau ar Twitter a dydyn nhw ddim yn sylweddoli pwy sy’n gwrando.”

Methodd Morse â thaflu’r ddisgen yn ddigon pell i gyrraedd y rownd derfynol, a doedd dau allan o dri o’i dafliadau ddim yn ddilys.

Ar ôl y gystadleuaeth, dywedodd Morse wrth y cyfryngau ei fod yn hapus gyda’i siâp a’i dechneg ond nad yw ei berfformiadau mewn cystadlaethau’n ddigon da.