Mark Williams - 'teimlo'n gyfforddus
Fe lwyddodd Mark Williams i sgubo’i ffordd trwodd i rownd yr 16 ola’ ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.
Fe fydd Ryan Day a Matthew Stevens yn gobeithio ymuno ag wrth chwarae yn y rownd gyntaf heddiw, wrth i’r Cymry chwilio am ychydig o lwyddiant am y tro cynta’ ers blynyddoedd yng Nghasnewydd.
Ond fe fethodd Dominic Dale â mynd trwodd, gan golli 4-2 i un o gyn-bencampwyr y byd, Peter Ebdon.
Doedd dim problemau i Williams wrth iddo guro Marco Fu o 4-0 a chael dau rediad o 100 neu fwy yn y broses.
Ar ôl ennill Pencampwriaeth yr Almaen yr wythnos ddiwetha’ a chodi i’r ail le yn rhestr goreuon y byd, mae’r chwaraewr o Went yn teimlo fod pethau o’i blaid.
Meddai Mark
“Dyw chwaraewyr Cymru ddim wedi gwneud dim ohoni yn y blynyddoedd diwetha’,” meddai Mark Williams wrth wefan snwcer y byd. “Dw i wastad yn dweud hyn, ond mae’n bryd i un ohonon ni gael rhediad da.
“Ro’n i’n teimlo’n gyfforddus heddiw, dw i’n cael cyfnod da ar y funud a rhaid i chi fwynhau’r peth tra medrwch chi.”
Williams yw’r unig chwaraewr o Gymru i ennill y Bencampwriaeth ac mae wedi rhybuddio mai dim ond dau neu dri thymor sydd ganddo ar ôl ar y brig.