Natasha Perdue
Y codwyr pwysau sy’n cael ei’n sylw heddiw…

Natasha Perdue

Camp: Codi pwysau (Pwysau 69kg)

Dyddiad geni: 37 (27 Gorffennaf 1975)

Man geni: Abertawe

Taldra: 160cm

Pwysau: 70kg

Gyrfa:

–      Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad2006 a 2008.

–      Ennill categori 69kg ym Mhencampwriaethau Hŷn Prydain 2011

Ffeithiau eraill:

–       Daw Natasha o linach godi pwysau. Cystadlodd ei diweddar dad, Terry, represented yng Ngemau Olympaidd Mexico 1968 a Munch 1972, yn ogystal â chystadlu deirgwaith yng Ngemau’r Gymanwlad.

–       Mae ei brawd wedi cystadlu  deirgwaith yng Ngemau’r Gymanwlad.

–      Roedd Natasha’n bencampwraig Karate Cenedlaethol cyn troi at godi pwysau.

Ffaith ddibwys:

–      Mae Natsha’n gyrru lori ludw fel bywoliaeth

Cystadlu gyntaf: 12:00 dydd Mercher 1 Awst

Gobeithion: Mae Natasha’n gobeithio efelychu campau ei thad trwy orffen yn ddegfed neu uwch. Mae bwcis Bwin.com wedi rhoi pris 40/1 arni i ennill y fedal aur, ond nid yw’n un o’r ffefrynnau.


Gareth Evans (llun o'i gyfrif Twitter)
Gareth Evans

Camp: Codi pwysau (69kg)

Oedran: 26 (18 Ebrill 1986)

Man geni: Dundee, Yr Alban (byw yng Nghaergybi

Taldra: 169cm

Pwysau: 68kg

Twitter: @Gazpin_69kg

Gyrfa:

–      Cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, Delhi 2010

–      Medal efydd yn ei gategori ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad, De Affrica 2011

–      Mae Gareth wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel peintiwr ac addurnwr er mwyn canolbwyntio ar ei baratoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Ffaith ddibwys:

–      Mae’n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam.

Cystadlu: 10:00 fore Mawrth 31 Gorffennaf

Gobeithion: Mae wedi aberthu tipyn trwy roi gorau i’w waith a symud i ffwrdd o’i deulu i hyfforddi, felly mae’n gobeithio gwneud cyfiawnder a’i hun yn fwy na dim. Mae’n 200/1 i ennill yr aur yn ôl Paddy Power.