Fred Evans (llun o wefan GB Boxing)
Wrth edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd, y ddau focsiwr Cymreig sy’n cael ein sylw heddiw.
Fred Evans
Camp: Bocsio (pwysau welter)
Oedran: 21 (4 Chwefror 1991)
Taldra : 180 cm
Pwysau: 69 kg
Man geni: Caerdydd
Gyrfa:
– Ennill Pencampwriaethau Cadét Ewrop yn Hwngari 2007
– Medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop 2011
– Medal aur yng Nghwpan Strandjagold 2012
Ffaith ddibwys:
– Ffrind gorau Fred yw’r bocsiwr arall o Gymru sy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd eleni, Andrew Selby.
Gornest gyntaf: 15:00 ddydd Sul 29 Gorffennaf.
Gobeithion: Yn ôl yr hyfforddwr cenedlaethol Colin Jones, Fred Evans ac Andrew Selby yw’r bocswyr mwyaf tebygol i gipio medal o’r pum bocsiwr sy’n cynrychioli Prydain. Mae Evans yn ail ffefryn i gipio aur yn ôl William Hill, gyda phris o 12/1.
Andrew Selby (llun o wefan GB Boxing)
Andrew Selby
Camp: Bocsio (pwysau pryf)
Oedran: 23 (25 Rhagfyr 1988)
Taldra : 162 cm
Pwysau: 52 kg
Man geni: Y Bari
Twitter: @andrewselby1
Gyrfa:
– Medal efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Lerpwl, 2008
– Medal efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop ym Mosgow, 2010
– Medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, 2011
– Medal arian ym Mhencampwriaethau Bocsio Amatur y Byd, 2011
– Medal arian yng Nghwpan Strandjagold, 2012
Ffaith ddibwys:
– Mae Andrew o bedigrî bocsio cryf. Roedd ei daid a’i dad yn arfer bocsio tra bod ei frawd, Lee, yn focsiwr proffesiynol.
Gornest gyntaf: 15:30 pnawn Llun 30 Gorffennaf.
Gobeithion: Mae Andrew yn un o’r ffefrynnau yn ei gategori pwysau. Mae BetVictor wedi rhoi pris 11/4 arno i gipio’r aur.
Casglwyd y wybodaeth gan – Marta Klonowska, Asia Rybelska a Kinga Uszko