Enzo Macciraneli
Mae cyn-bencampwr bocsio’r byd o Abertawe, Enzo Maccarinelli, wedi dweud na fydd yn ymddeol ar ôl cael ei wahardd am chwe mis am gymryd cyffur anghyfreithlon.

Dangosodd prawf fod Maccarinelli wedi cymryd y cyffur methylhexaneamine ar ôl gornest yn erbyn Shane McPhilbin.

Cafodd ei wahardd rhag bocsio ac unrhyw faes arall nes 18 Hydref eleni.

Mae Maccarinelli wedi dweud ei fod e wedi cymryd cyffur er mwyn torri braster.

Dywedodd Maccarinelli: “Dydy ymddeol ddim wedi croesi fy meddwl, rwyf am glirio fy enw.

“Rwy wedi colli’n drwm yn erbyn bois sydd wedi mynd ymlaen i frwydro am deitlau byd ac rwy wedi cael fy nal gan ergydion glân.

“Rwy am weld sut mae’n mynd, ond hyd nes y gwaharddiad hwn, ro’n i fwy na thebyg yn edrych cystal ag ydw i erioed ac yn ôl fel yr oeddwn i o’r blaen.”

Mae’r bociswr o Fon-y-maen yn Abertawe yn dweud bod ganddo gefnogaeth yr hyrwyddwr Frank Warren o hyd ac nad yw wedi rhoi’r gorau i’r syniad o frwydro am deitl arall.

Collodd ei deitl yn 2008 ar ôl cael ei guro gan David Haye o fewn dwy rownd yn Llundain.

Mae Maccarinelli hefyd yn ystyried dwyn achos yn erbyn y cwmni oedd wedi hysbysebu’r cynnyrch a oedd wedi arwain at ei waharddiad.