Mathew Stevens
Llwyddodd y Cymry Mathew Stevens a Ryan Day i ennill eu gemau rhagbrofol ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghasnewydd heddiw.
Mae’r ddau bellach yn y rownd gyntaf go iawn, gan ymuno â dau Gymru arall – Dominic Dale a Marc Williams.
Fe gurodd Stevens y Sais Anthony Hamilton o 4 ffrâm i 2 yn un o gemau cyntaf y dydd yng Nghasnewydd.
Roedd gan Day dasg fach anodd o’i flaen wrth herio ffefryn y cefnogwyr, Jimmy White. Llwyddodd i guro’r hen ben yn gyfforddus yn y diwedd o 4 ffrâm i ddim.
Fe sgoriodd Day rediadau o 125, 68 a 102 wrth chwalu White ac mae ei hyder i’w weld yn dychwelyd wedi dechrau siomedig i’r tymor. Fe fydd nawr yn herio seren arall o Loegr, Ronnie O’Sullivan yn y rownd gyntaf.
“Ro’n i’n gweiddi dros Jimmy wrth wylio’r gemau rhagbrofol gan ym mod i’w gwybod y byddai’r awyrgylch yn wych heno,” meddai’r Cymro. “Dwi’n edrych ymlaen at herio Ronnie nawr.”
Yng ngêm fawr y dydd, fe lwyddodd enillydd llynedd, John Higgins, i guro’r chwaraewr Ifanc Jack Lisowski o 4 ffrâm i 3 mewn gêm gyffrous. Roedd yn fuddugoliaeth emosiynol i Higgins a gollodd ei dad ynghynt yn y mis.
Fe fydd Ryan Day yn herio Ronnie O’Sullivan am 7pm nos Fercher tra bod Mathew Stevens yn chwarae yn erbyn Shaun Murphy am 1pm yr un diwrnod.