Mae’r Arglwydd Coe yn gobeithio y bydd y foment mae’r fflam Olympaidd yn cyrraedd tir Prydain yn sbarduno’r wefr fwyaf am y Gemau Olympaidd hyd yn hyn.
Mae Cadeirydd y Gemau Olympaidd yn paratoi ar gyfer trosglwyddiad swyddogol y fflam mewn seremoni yn Stadiwm Panathenaic, cartref y gemau pan oeddynt yn Athen yn 1986.
Bydd yn cael ei throsglwyddo i Land’s End pan fydd y pencampwr hwylio Olympaidd Ben Ainslie yn ei chario ar y cymal cyntaf o’r daith 70 diwrnod hyd ddechrau’r Gemau yn Llundain.
Mae taith y fflam Brydeinig ar draws cymunedau Prydain wedi ei chynllunio yn fwriadol i roi sylw i’r rhai sydd wedi gweithio’n dawel yn y cefndir yn y byd chwaraeon ac mewn gwaith cymdeithasol a gyda’r genhedlaeth iau.
Mae’r fflam Olympaidd wedi bod ar daith mewn ras gyfnewid o amgylch y tir ac ynysoedd Groeg ers i’r fflam gael ei chynnau yn Olympia yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r fflam wedi bod yn Crete, Piraeus, Thessalonica, Xanthi a Larissa ymhlith llefydd eraill.
Ar y diwrnod olaf bydd y fflam yn cael ei gludo i Acropolis, Amgueddfa Acropolis, canol Athen, Zappeio ac yna i’r seremoni drosglwyddo yn Stadiwm Panathenaic.
Y fabolgamp wraig Tsieineaidd Ning Li a gyneuodd y crochan yn seremoni agoriadol gemau Beijing 2008, a’r codwr pwysau Groegaidd Pyrros Dimas fydd yn cludo’r fflam am y tro olaf yng ngwlad Groeg.
Ar ôl y seremoni drosglwyddo, bydd y fflam yn cael ei chludo i’r Deyrnas Unedig gan lanio yn RNAS Culdrose, ger Helston, Cernyw.
‘‘Cyn gynted ag y bydd y fflam yn glanio ar dir Prydain, dyna pryd y bydd y bwrlwm a’r cyffro yn sbarduno pobl yn eu cartrefi i fod yn rhan o’r Gemau Olympaidd, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn chwaraeon,’’ meddai Hugh Robertson, gweinidog y Gemau Olympaidd.
Bydd y ras gyfnewid genedlaethol yn gweld 8,000 o bobl yn cludo’r fflam i’r crochan ar gyfer y seremoni agoriadol yn y Stadiwm Olympaidd yn Stratford, yn nwyrain Llundain.
Bydd Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn dechrau a’r 27 Gorffennaf.