Mae perchnogion Grŵp Chwaraeon Fenway a’r clwb wedi cadarnhau bod amser Kenny Dalglish fel rheolwr Lerpwl ar ben.
Daeth y cyhoeddiad o fewn 24 awr a’r ôl i’r Albanwr ddychwelyd o gyfarfod gyda phrif berchennog y clwb John Henry a’r Cadeirydd Tom Werner yn yr Unol Daleithiau.
‘‘Ar ôl edrych yn ofalus ac yn ystyriol dros y tymor, fe ddaeth y clwb i benderfyniad bod angen newid ychydig o bethau. Nid oedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud. Mae’r gwaith o chwilio am reolwr newydd wedi dechrau’n barod,’’ meddai datganiad ar y cyd.
Dywedodd Werner eu bod wedi gwneud penderfyniad anodd i gael gwared a dyn sydd wedi ennill parch uchel iawn gan y bobl yn Anfield yn dilyn ei gampau fel chwaraewr a rheolwr yn ei gyfnod blaenorol wrth y llyw.
‘‘Daeth Kenny i mewn i’r clwb fel rheolwr, ar ein cais, ar adeg pan oedd y clwb wirioneddol ei angen. Nid oedd wedi gofyn am fod yn rheolwr, gofynnwyd iddo ymgymryd â’r rôl. Fe wnaeth hynny oherwydd yr oedd yn gwybod bod y clwb ei angen,’’ meddai Werner.
‘‘Gwnaeth mwy na neb arall i sefydlogi Lerpwl dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Rydym yn ddyledus iddo am hynny,’’ ychwanegodd Werner.
‘‘Fodd bynnag, mae’r canlyniadau yn yr Uwch Gynghrair wedi bod yn siomedig ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu llwyddiant i’n cefnogwyr a’n huchelgais yw gwneud Lerpwl yn glwb mawr elitaidd yn Lloegr ac Ewrop unwaith yn rhagor,’’ dywedodd Werner.
Mae na ddyfalu bod Andre Villas-Boas, Roberto Martinez a Brendan Rogers ymhlith y rhai sydd dan ystyriaeth i olynu Dalglish.