A oes lle yn y pwll i ddau Gymro arall?
Mae dau nofiwr o Gymru yn dal i obeithio y byddan nhw’n ennill eu lle yng ngharfan Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Ar ôl colli allan ar ei lle yn y tim ar gyfer y rasys 400m ac 800m dull rhydd, fe fydd Jazz Carlin yn cael un cyfle arall yn yr ail set o dreialon Olympaidd yn Sheffield y mis nesaf. Bryd hynny, mae hi’n gobeithio cael lle yn y ras 200m, a lle hefyd yn y ras gyfnewid.
Dros y penwythnos, fe fu’n cystadlu yn Abertawe, ym Mhwll Cenedlaethol Cymru. Ac wedi iddi ennill y ras 200m dull rhydd mewn amser o 2:00.44, meddai:
“Mae wedi bod yn grêt rasio y penwythnos hon, a gweld lle’r ydw I arni o ran fy hyfforddi. Roedd hi wedi bod yn wythnos anodd, ac fe wnes i fy ngorau.
“Roedd fy amser yn y 200m (freestyle) yn gyflymach na fy amser yn y treialon, felly rwy’n gwella trwy’r amser.”
Un dyn bach ar ôl
Mae Ieuan Lloyd hefyd yn dal i aros i weld a fydd e’n cael mynd i Lundain ym mis Gorffennaf i rasio dros 200m.
“Mae’r hyfforddi wedi bod yn mynd yn dda,” meddai Ieuan Lloyd, “er mae wedi bod yn galed iawn gweithio rhwng y pwll a’r gym. Mae pawb wedi bod yn gweithio’n ofnadwy o galed, ac mae rasio yn sbarduno pawb i dreial yn galetach.
“Rwy’ i wedi gwneud rhai amseroedd da iawn y penwythnos hwn, felly mae pethe’n edrych yn addawol iawn ar gyfer y Gemau Olympaidd.”