Dai Greene (erikl.nl - Trwydded GNU)
Roedd yna wobrau arbennig i hyfforddwyr dau o athletwyr gorau Cymru mewn seremoni Brydeinig neithiwr.
Fe gafodd Malcolm Arnold wobr Llwyddiant Oes am ei waith yn hyfforddi nifer o redwyr, gan gynnwys y ddau redwr clwydi o Gymru, Colin Jackson a Dai Greene.
Honno oedd un o’r prif wobrau yn Seremoni Hyfforddi’r Deyrnas Unedig 2011.
Roedd Arnold yn allweddol wrth i Jackson gipio medalau aur ym Mhencampwriaethau’r Byd a chadw record y byd am flynyddoedd yn y 110 metr.
Erbyn hyn, ef sy’n hyfforddi’r Cymro Dai Greene wrth iddo yntau ddod yn bencampwr byd yn y 400 metr.
Gwobr i ddau Gymro
Roedd Malcolm Arnold hefyd yn rhan o gadwyn o hyfforddwyr a enillodd wobr am hyfforddi Greene – dau arall oedd y Cymry, Wynford Leyshon a Darrell Maynard.
Leyshon oedd yn hyfforddi Greene yn ei ddyddiau cynnar gyda chlwb rhedeg Harriers Abertawe a Maynard n ei hyfforddi yn Athrofa Caerdydd, UWIC.