Daeth cadarnhad fod Rali GB Cymru wedi’i chanslo eleni yn sgil y coronafeirws.

Roedd disgwyl i rowndiau Prydeinig pencampwriaeth ralio’r byd ddod i Gymru rhwng Hydref 29 a Tachwedd 1.

Dyma’r tro cyntaf i’r ras Brydeinig gael ei chanslo ers hanner canrif ac yn ôl y trefnwyr, maen nhw wedi gwneud y penderfyniad o ganlyniad i ansicrwydd am deithio ac ymgynnull mewn grwpiau mawr.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n hyderus o ddychwelyd yn gryfach y flwyddyn nesaf.

Mae pryderon am effaith canslo’r digwyddiad ar y canolbarth a’r gogledd, gyda thros 100,000 yn mynychu’r ras flynyddol ers 2000, ac mae wedi’i chynnal yn y gogledd ers 2013.

Ynghyd â denu dros 100,000 o ymwelwyr o ar ddraws y byd, mae Rali GB Cymru yn cynhyrchu dros £9 miliwn o fudd i’r rhanbarth bob blwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r digwyddiad wedi codi dros £250,000 i elusennau lleol ac achosion da – llwyddiant fydd yn parhau yn 2021.

Ymateb

“Mae’r penderfyniad yma wedi’i wneud gyda chalonnau trwm, ond mewn ymgynghoriad gyda ein prif bartner Llywodraeth Cymru, mae’n anffodus iawn mae’n un y mae’n rhaid i ni ei wneud oherwydd y perygl parhaus mae’r pandemig byd-eang yn achosi,” meddai David Richard, cadeirydd Motorsport UK, sy’n trefnu Rali GB.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae apêl enfawr y genhedlaeth ddiweddaraf o cheir pencampwriaeth ralio’r byd, ynghyd a phresenoldeb seren leol, Elfyn Evans – enillydd yr digwyddiad yn 2017 –  wedi tynnu torfeydd fwyaf erioed i goedwigoedd Cymru, ond yn ystod y pandemig, nid yw’n amser priodol i ni ddenu miloedd o ymwelwyr o ar ddraws y byd i gymunedau gwledig y wlad.

“Fel llywodraeth chwaraeon moduro Prydain Fawr, ein cyfrifoldeb pennaf a’n blaenoriaeth llwyr yw ddiogelwch pawb sy’n cymryd rhan, boed yn gystadleuwyr, swyddogion, gwylwyr neu’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n rhannu ein cariad at y gamp hon, a diolchwn iddynt i gyd am eu cefnogaeth barhaus a’u brwdfrydedd yn y cyfnod anodd hwn.

“Er bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud i frwydro yn erbyn y firws, mae yna dal ansicrwydd ynghylch llawer o bobl yn ymgynull mewn un lleoliad, pellter cymdeithasol a chyfyniadau teitho cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd a’r posibilrwydd o cynhyddiad mewn trosglyddiad y firws y diweddarach yn y flwyddyn.

“Rydym yn monitro’r canllawiadau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn agos ac mae’n debyg ei bod yn amhosibl gwneud cynlluniau gydag unrhyw sicrwydd ar gyfer digwyddiadau sylweddol yn yr hydref.

“Felly, yn anffodus iawn mae’n rhaid i ni dderbyn taw canslo y digwyddiad eleni yw’r unig opsiwn cyfrifol a darbodus.

“Nawr, byddwn yn dechrau canolbwyntio ein sylw ar greu digwyddiad bythgofiadwy ar gyfer 2021.”