Mae Geraint Thomas yn dweud bod codi dros £340,000 at y Gwasanaeth Iechyd yn deimlad “anghredadwy”.

Treuliodd y Cymro 36 awr ar ei feic ymarfer yr wythnos hon, gan gwblhau tair sesiwn ddyddiol o 12 awr yr un rhwng dydd Mercher a dydd Gwener yn ei garej yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth e seiclo pellter o fwy na 400km bob dydd i gefnogi’r meddygon ar y rheng flaen wrth iddyn nhw fynd i’r afael â’r coronafeirws.

“Dw i wedi bod yn cael gwaith cerdded lan y grisiau,” meddai.

“Ar y trydydd diwrnod, roedd hi’n anodd eistedd ar y sedd am y tair awr olaf.

“Fe gymerodd hynny fy holl egni i ganolbwyntio, a do’n i ddim yn sylweddoli pa mor boenus oedd fy nghoesau, fy nghefn a’m gwddf.

“Ro’n i’n gwybod y byddai’n anodd, ond do’n i ddim wir yn meddwl gormod am y peth.

“Ar ôl y diwrnod cyntaf, do’n i’n sicr ddim yn edrych ymlaen at y ddau ddiwrnod nesaf oherwydd roedd hi mor anodd.

“Ro’n i’n rhedeg yr adrenalin i ffwrdd ar y diwrnod cyntaf, a wnes i fwynhau hynny, ond ddim cymaint yr ail a’r trydydd diwrnodau.

“Ond wnes i fwynhau gorffen yn bendant, roedd yn deimlad enfawr o fod wedi cyflawni rhywbeth.”

Cefnogaeth

Mae’n dweud iddo gael ei synnu gan y gefnogaeth a gafodd wrth gwblhau’r her dros Zwift ar y we, gyda nifer o bobol gan gynnwys Syr Dave Brailsford yn ymuno â fe ar gyfer camau gwahanol o’r her.

“Ces i fy synnu gan faint o bobol oedd wedi cefnogi’r peth,” meddai.

“Roedd yr holl roddion yn syrpreis enfawr.

“Ro’n i’n meddwl bod £50,000 yn nod iawn felly mae cael dros £330,000 yn anghredadwy.”