Mae Roman Walker, bowliwr cyflym Morgannwg o Wrecsam, wedi arwain ei dîm cyfrifiadurol i fuddugoliaeth o bedair wiced dros dîm Swydd Gaerlŷr Hassan Azad yn y Cwpan Cwarantîn.

Gan fod y tymor criced go iawn wedi cael ei ohirio oherwydd y coronafeirws, mae un chwaraewr o bob sir yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyfrifiadurol ar y PlayStation 4 sydd wedi cael ei threfnu gan y cylchgrawn The Cricketer.

Y sylwebydd Mark Church a’i ferch sy’n sylwebu ar y gemau, sy’n cael eu darlledu ar YouTube.

Cafodd Roman Walker fuddugoliaeth swmpus ar ei gynnig cyntaf.

Ar ôl galw’n gywir, fe wahoddodd ei wrthwynebydd i fatio’n gyntaf ar gae rhithwir yr MCG ym Melbourne.

Sgoriodd y Saeson 51 am bedair oddi ar bum pelawd, gyda ‘Mark Cosgrove’ yn taro 25 oddi ar 13 o belenni ar frig y batiad.

Ond fe gwympodd un wiced ar ôl y llall, ac roedd Swydd Gaerlŷr yn 43 am bedair o fewn dim o dro.

Morgannwg yn batio

Clatsio oedd tacteg Roman Walker o’r belen gyntaf, gan daro 25 oddi ar y belawd gyntaf, gyda chyfres o ergydion at y ffin.

Fe geisiodd e gael ‘David Lloyd’ i redeg sengl cyflym, ond fe gafodd ei redeg allan i roi llygedyn o obaith i’r Saeson.

Ond parhau i glatsio wnaeth ‘Morgannwg’, gyda Billy Root yn taro 14 oddi ar chwe phelen yn niwedd y gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda deg pelen yn weddill o’r ornest.

Bydd ‘Morgannwg’ yn herio Surrey a Sophia Dunkley ddydd Sadwrn nesaf (Ebrill 25).

‘Dechrau’n araf’ ond mantais seicolegol

Ar ddiwedd y gêm, roedd y Roman Walker go iawn yn hapus gyda’i fuddugoliaeth gyntaf.

“Roedd hi’n dda, ond ro’n i’n araf i ddechrau,” meddai wrth siarad â Mark Church dros y ffôn ar ddiwedd y gêm.

“Cafodd Hassan Azad ddechrau da i Swydd Gaerlŷr.

“Ond fe wnaethon ni lwyddo i daro’n ôl gyda’r bat – ond do’n i ddim yn hyderus o gwbl! Do’n i ddim wedi gallu ei tharo hi oddi ar y sgwâr am ryw bythefnos ond yn sydyn iawn, fe weithiodd pan oedd yn cyfri.

“Dwi ond yn gobeithio ’mod i heb gyrraedd fy ngorau’n rhy gynnar!

“Roedd Hassan yn dda, dipyn gwell nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl, a dw i’n credu mai fo ydi’r un i’w wylio yn y gystadleuaeth.

“Os nad ydw i gystal ag oeddwn i heddiw, gobeithio fydd hynny’n gweithio o ’mhlaid wrth i bobol feddwl ’mod i’n well nag y bydda’ i.”