Mae’r Cymro Jamie Lewis wedi curo Peter Wright, pencampwr dartiau’r byd y PDC, heb fod y naill na’r llall wedi gorfod gadael eu cartrefi eu hunain.
Neithiwr (nos Wener, Ebrill 17), cafodd chwaraeon byw ei gynnal am y tro cyntaf ers dechrau ymlediad y coronafeirws, wrth i’r ddau herio’i gilydd o bell yn Nhaith Gartre’r PDC.
Mae’r gystadleuaeth newydd yn gofyn bod y chwaraewyr yn aros yn eu cartrefi eu hunain ac yn ffrydio’r gêm yn fyw.
Hefyd yn ystod y noson, fe wnaeth Peter Jacques a Niels Zonneveld herio’i gilydd ond bu’n rhaid i Gary Anderson a Daryl Gurney dynnu’n ôl oherwydd cyswllt di-wifr gwan, a dydy Michael van Gerwen ddim yn chwarae am fod gormod o sŵn yn ei dŷ.
Cafodd cannoedd o wylwyr drafferthion wrth gysylltu â gwefan y PDC.
Mae arian ar gael ar gyfer enillydd y gystadleuaeth, sy’n para 31 noson.
Ymateb Jamie Lewis
“Dw i’n fwy nerfus yn chwarae yn fy ystafell sbâr nag yn yr Ally Pally, dyw e ddim yn gwneud synnwyr,” meddai Jamie Lewis.
Fe fydd Cymro arall, Gerwyn Price, yn chwarae heno (nos Sadwrn, Ebrill 18), ynghyd â Rowby-John Rodriguez, Ted Evetts a Luke Woodhouse.