Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi gorfod cymryd y cam o gloi eu cae pêl-droed, Coedlan y Parc am “y dyfodol rhagweladwy.”

Mewn datganiad ar Twitter, dywed Nathan Perkins, rheolwr offer y clwb, fod “unigolion a grwpiau wedi bod yn defnyddio’r cae heb ganiatâd y clwb”.

Dywed fod hyn yn erbyn canllawiau’r Llywodraeth ar ymbellháu cymdeithasol a bod yr heddlu wedi cael eu hysbysu.

Mae’r stadiwm yn gallu dal hyd at 5,000 o gefnogwyr ac mae ganddo gae 3G.

Dywed datganiad ar wefan y clwb fod deunydd amddiffynnol sy’n gwarchod y cae wedi cael ei gludo oddi yno.