Mae Elfyn Evans ar frig Pencampwriaeth Ralio’r Byd ar ôl ennill Rali Sweden heddiw (dydd Sul, Chwefror 16).
Roedd ganddo fe flaenoriaeth o 17.2 eiliad dros Ott Tanak o Estonia ar ddechrau’r diwrnod olaf ond fe wnaeth hwnnw gau’r bwlch i 12.7 eiliad yn y pen draw.
Dyma’r tro cyntaf i yrrwr o wledydd Prydain ennill y ras.
Hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf ei gyd-yrrwr Scott Martin mewn rali.
Kalle Rovanperä o’r Ffindir oedd yn drydydd, a’r Ffrancwr Sebastien Ogier yn bedwerydd.