Mae Leigh Halfpenny yn dweud y gall tîm rygbi Cymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad er iddyn nhw golli yn erbyn Iwerddon yn ninas Dulyn.
Collodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn y Gwyddelod yn 2013 cyn ennill y bencampwriaeth yn y pen draw, ac roedd y cefnwr yn aelod o’r tîm hwnnw.
Mae Cymru’n herio Ffrainc ddydd Sadwrn nesaf (Chwefror 22) cyn wynebu Lloegr yn Twickenham a’r Alban yng Nghaerdydd.
“Yn sicr, gallwn ni ei hennill hi o hyd,” meddai.
“Ry’n ni wedi colli un gêm – ac ry’n ni’n brifo ar ôl honno – ond dydy hi ddim ar ben.
“Rhaid i ni ennill pob gêm nawr a dyna’r her.
“Mae hynny’n ein cyffroi ni’n fawr.
“Fe’i gwnaethon ni hi yn 2013 ar ôl colli ein gêm gyntaf gartref yn erbyn Iwerddon ac ennill y gweddill wedyn.”
Anafiadau
Wnaeth e ddim chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf yn sgil cyfergyd, gan golli’r bencampwriaeth olaf o dan arweiniad Warren Gatland.
Ond mae e newydd ennill cap rhif 87 ac yn edrych ymlaen at ennill rhagor.
“Roedd hi’n drueni’r tymor diwethaf oherwydd anafiadau ond mae hynny y tu ôl i fi nawr,” meddai.
“Roedd hi’n wahanol pan o’n i allan ag anaf i’r pen a dw i’n ddiolchgar iawn o gael bod yn ôl.
“Dw i’n mwynhau bod allan yno eto a dw i’n mwynhau ceisio gwella.”