Mae dau Gymro wedi cyrraedd rownd wyth olaf cystadleuaeth ddartiau’r Meistri ym Milton Keynes.
Fe lwyddodd Jonny Clayton o Bontyberem i sicrhau canlyniad gorau’r gystadleuaeth, wrth guro Michael van Gerwen, sydd ar frig rhestr detholion y byd, o 10-6.
Y chwaraewr o’r Iseldiroedd sydd wedi ennill y gystadleuaeth bob blwyddyn ers pum mlynedd, ac roedd e’n ddi-guro mewn ugain o gemau cyn colli yn erbyn y Cymro.
Bydd y chwaraewr 45 oed yn wynebu Nathan Aspinall yn rownd yr wyth olaf heddiw, ar ôl dweud ei fod e’n “Gymro hapus” yn dilyn ei fuddugoliaeth fawr annisgwyl.
Dywedodd Michael van Gerwen fod ei fuddugoliaeth yn “rhyfeddol”, ond y byddai yntau’n dychwelyd “yn well ac yn gryfach” yn sgil colli.
Gerwyn Price yw’r Cymro arall sy’n dal yn y gystadleuaeth, a hynny ar ôl crafu buddugoliaeth o 10-9 yn erbyn yr Awstraliad Simon Whitlock.
Bydd e’n herio’r Albanwr Gary Anderson yn rownd yr wyth olaf.