Mae Joe Rodon “cystal ag unrhyw amddiffynnwr canol yn y Bencampwriaeth”, yn ôl Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.
Dechreuodd y Cymro 21 oed o ardal Llangyfelach y gêm yn Preston ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 1) ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn Stoke ar ôl tri mis allan yn dilyn llawdriniaeth ar ei ffêr.
Fe wnaeth e argraff yn ystod y gêm gan wneud ambell dacl a bloc allweddol o flaen y gôl, ac fe allai’r perfformiad fod wedi dod ar yr adeg iawn wrth i Gymru baratoi ar gyfer Ewro 2020 yn yr haf.
“Dw i’n falch iawn o Joe,” meddai Steve Cooper.
“Dw i’n gwybod mai un gêm yn unig oedd hon, ond mae e wedi gweithio’n galed yn ystod ei dri mis i ffwrdd er mwyn cael dychwelyd i chwarae.
“Mae e wedi gweld eisiau’r cyfan.
“Fe oedd y cyntaf i gyrraedd y cae ymarfer o hyd, ac yn aml iawn yr un olaf i adael hefyd.
“Wrth ddod yn nes at fynd yn ôl ar y glaswellt, roedd e’n sicrhau ei fod e mor ffit â phosib.
“Felly o feddwl mai pythefnos sydd ers iddo fe ddychwelyd i ymarferion a’r ffordd wnaeth e chwarae, doedd e ddim yn edrych fel pe bai e wedi bod i ffwrdd.”
‘Cystal ag unrhyw un yn y gynghrair’
“Fel amddiffynnwr canol, mae e wedi bod cystal ag unrhyw un yn y gynghrair hon o’m safbwynt i, hyd nes iddo gael ei anafu, gyda phob parch i bawb arall sy’n chwarae,” meddai’r rheolwr wedyn.
“Roedd e’n cael tymor gwych.
“Mae’n wych ei fod e wedi chwarae fel wnaeth e.
“Alla i ddim ei glodfori fe ddigon am y ffordd mae e wedi ymddwyn yn ystod ei adferiad er mwyn cael dychwelyd i’r cae.
“Dw i’n meddwl bod hynny wedi rhoi hwb i bawb arall hefyd, oherwydd mae e’n foi poblogaidd iawn.
“Ond y peth cyntaf ddywedodd e wrtha i ar ôl y gêm oedd fod un neu ddau beth roedd e’n teimlo y gallai e fod wedi eu gwneud yn well.
“Mae hynny’n nodweddiadol ohono fe.”