Mae’r cerddor o Flaenau Ffestiniog, Gai Toms, yn dweud mai gwisgo i fyny fel reslar mewn parti stag oedd man cychwyn ei albwm diweddaraf.

Mae Orig gan Gai Toms a’r Banditos yn “ddathliad o fywyd” y diweddar Orig Williams – neu ‘El Bandito’ fel yr oedd yn cael ei adnabod yn y cylch reslo.

Mae’n ddegawd ers marwolaeth y cawr o Ysbyty Ifan, Dyffryn Conwy, a’r nod yw cyhoeddi’r albwm sy’n deyrnged iddo ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst – dafliad carreg o fro ei febyd.

Yn ôl Gai Toms, cafodd yr holl ganeuon eu cyfansoddi a’u recordio ar ras wyllt rhwng mis Ionawr a’r Pasg eleni, ac maen nhw’n gweddu i’r dim i gymeriad “rough and ready” El Bandito ei hun, meddai wedyn.

Ond bu’r syniad o drosglwyddo rhai o anturiaethau lliwgar y reslwr i ffurf caneuon yn ffrwtian ym meddwl Gai Toms ers rhai blynyddoedd.

“Stag dŵ oedd o, ac mi wnaeth fy ffrindiau fy ngwisgo i fel reslar,” meddai wrth golwg360. “Wnes i weld lluniau yr wythnos wedyn o’r stag dŵ, ac mi wnes i sylweddoli, ‘iesgob, dw i’n debyg i El Bandito yn y llun yna!’

“Mi wnaeth o ddod ag atgofion yn ôl o wylio El Bandito yn fyw mewn neuaddau… a hefyd ei wylio ar S4C ar y rhaglen Reslo ar bnawn Sadwrn.”

Arwr y werin

Yn ddiweddarach, fe ddarllenodd Gai Toms fersiwn Saesneg o Cario’r Ddraig, sef hunangofiant Orig Williams (El Bandito: Orig Williams yn Saesneg), ac mae’n cofio teimlo’r caneuon yn “bownsio o’r llyfr”.

“Roedd o jyst fel, ‘mae angen gneud rhywbeth am hwn’, ac fel cyfansoddwr, mi wnes i ddehongli’r anturiaeth yma i ganeuon,” meddai wedyn.

Mae’r caneuon yn defnyddio nifer o arddulliau cerddorol, ond cerddoriaeth werin yw’r hanfod, meddai Gai Toms, gan mai “arwr y werin” oedd El Bandito.

Ac mae llais y gantores Tara Bethan, fel aelod o’r Banditos, hefyd i’w glywed ar yr albwm sy’n deyrnged i’w thad.

“Roeddan ni wedi recordio’r caneuon efo’r band a’m llais i, ond roedd yna rywbeth ar goll,” meddai Gai Toms.

“Ond wedyn fe ddaeth Tara i mewn a chanu’r lleisiau cefndir ac, waw… I mi, yn bersonol, fe ddaeth yr holl beth yn fyw.

“Roedd enaid Orig yna, rhywsut, yn yr ystafell efo fi wrth glywed llais Tara. Roedd o’n brofiad eithaf emosiynol, ysbrydol.”

Bydd ORIG ar gael ar CD ac yn ddigidol ar Orffennaf 19, ond bydd un gân, sef ‘Y Cylch Sgwâr’, ar gael fel sengl o fory (dydd Gwener, Gorffennaf 5) ymlaen.